Diwrnod 98: Gweddïo dros deuluoedd (1971)
Medi 23ain
Diwrnod 98 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Boed i’r môr a phopeth sydd ynddo weiddi; a’r byd hefyd, a phawb sy’n byw ynddo' (Salm 97:12).
1971
Nododd erthygl yng nghylchgrawn The Deliverer Medi/Hydref 1971:
‘Nawr fod gan y gymdeithas barn lai llym tuag at famau nad ydynt yn briod, mae nifer ohonynt nawr yn aros yn eu hardal leol i gael eu babanod yn hytrach na gadael. Mae nifer o’r mamau bellach yn cadw eu babanod. Allan o’r holl fabanod a gafodd eu geni yng Nghaerdydd yn 1969, arhosodd 89% gyda’u mamau, cafodd 9% eu mabwysiadu a chafodd y gweddill eu maethu.
‘Gan amlaf, y mamau rhwng 15-20 sydd am gadw eu babanod sy’n cael her wrth ddod o hyd i lety. Gall y merched hyn gael cymorth yn ystod y cyfnod anodd hyn yn Northlands. Gall y merched aros yno am uchafswm o ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn bydden nhw’n dysgu sut i edrych ar ôl eu babanod a’u hystafelloedd. Os bydden nhw am ddod o hyd i lety eu hunain, bydden nhw’n cael eu cefnogi i wneud hynny.
‘Dangosodd y Comisiynydd Julia Tickner, Arweinydd Gwaith Cymdeithasol i Fenywod, y bu wastad y parodrwydd i addasu i anghenion sy’n parhau i newid. Roedd ehangu Northlands er mwyn cynnwys Cartref Mamau a Babanod a Meithrinfa yn enghraifft o hynny.’
Gweddi
- Gweddïwch dros y teuluoedd sy’n cefnogi rhieni sengl wrth fagu eu plant.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.