Diwrnod 97: Gweddïo dros y gymuned Gymreig ym Mhatagonia (1970)
Medi 22ain
Diwrnod 97 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Chi rai cyfiawn, byddwch yn llawen yn yr Arglwydd, a’i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!’ (Salm 97:12).
1970
Ar Fawrth 14eg 1970 bu erthygl yn War Cry gyda’r teitl ‘Dros y Cymry ym Mhatagonia’:
‘Gwnaed sawl cyfeiriad tuag at waith yr Uwch-gapten Edward Watkins a’i waith gyda’r gymuned Gymreig ym Mhatagonia. Wedi iddynt gael seibiant gartref aeth yr Uwch-gapten gyda’i wraig o’r DU i Buenos Aires. Wedi iddynt gyrraedd prif ddinas yr Ariannin, teithion nhw 1,000 o filltiroedd i Drelew, calon y gymuned Gymreig yno.
‘Roedden nhw wedi bod yn bresennol yn arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghaernarfon ar ran y Cymry ym Mhatagonia. Yn dilyn hynny, cawson nhw wahoddiad gan Gymdeithas Cymru Patagonia yng Nghymru i gymryd cadair yr arwisgiad i’w chyflwyno yn Nhrelew.
‘Mae’r Uwch-gapten a Mrs Watkins hefyd yn cymryd samplau pridd o’r 13 sir yng Nghymru: bydd y rhain yn cael eu rhoi yn y gofeb Gymreig genedlaethol yn Nhrelew. Maent yn gobeithio y bydd mwy o siaradwyr Cymraeg yn cynnig i ddod i weithio ym Mhatagonia. Mae yna angen mawr am weinidogion ac athrawon.’
Mae cofnodion y Ganolfan Dreftadaeth Ryngwladol y nodi: ‘Roedd Edward Owen Watkins yn ffermwr ac yn filwr yng Nghorfflu Pwllheli. Roedd yn siaradwr Cymraeg a hefyd yn gallu siarad Saesneg ac Eidaleg yn rhugl. Wedi iddo wasanaethu mewn 12 o gorffluoedd ar hyd 14 o flynyddoedd, aeth ef a’i wraig Margaret i wasanaethu yn Ne America.’
Gweddi
- Mae’n destun llawenydd fod yr iaith Gymraeg yn dal i gael ei siarad ym Mhatagonia. Gweddïwch dros y rheini sy’n rhannu’r newyddion da am Iesu yn y gymuned honno.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.