Diwrnod 96: Gweddïo dros Sgiwen (1969)
Medi 21fed
Diwrnod 96 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Canwch i’r Arglwydd! Canmolwch ei enw, a dweud bob dydd sut mae e’n achub’ (Salm 96:2).
1969
Roedd rhifyn Gorffennaf 1af 1969 o War Cry yn trafod arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon. Yn yr un rhifyn roedd neges gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus George Thomas AS:
‘Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn fudiad parchus iawn yng Nghymru. Mae’i gwaith cymunedol wedi ennill parch ac anwyldeb.
‘Mae’n fudiad sy’n ymateb yn weithredol ac yn ymarferol ac mae’i gwaith cymdeithasol yn rhan mor annatod o fywyd nes ei bod bron yn cael ei chymryd yn ganiataol. Rwy’n falch iawn o allu cymryd y cyfle i nodi fy edmygedd am waith Byddin yr Iachawdwriaeth, nid yn unig yng Nghymru ond trwy gydol y byd. Rwy’n danfon fy nghyfarchion i aelodau a chefnogwyr Byddin yr Iachawdwriaeth ym mhobman.
‘Ni wnaeth y trychineb yn Aberfan atal Byddin yr Iachawdwriaeth rhag cynorthwyo pobl mewn angen. Mae’n addas eich bod chi nawr yn ymuno gyda ni i ddathlu Arwisgiad y Tywysog Charles. Cyfarchion a phob dymuniad da i chi gyd.’
Yn hwyrach yn y flwyddyn, roedd taith gerdded o Lundain i Sgiwen er mwyn codi arian ar gyfer neuadd newydd.
Gweddi
- Gweddïwch dros aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghorfflu Sgiwen wrth iddynt barhau i ddod ag Iesu i’w cymunedau.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.