Diwrnod 95: Gweddïo dros Fargoed (1968)

Medi 20fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 95 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Fe ydy’n Duw ni, a ni ydy ei bobl e; y defaid mae’n gofalu amdanyn nhw. O na fyddech chi’n gwrando arno heddiw!’ (Salm 95:7).

1968

Mae llyfr hanes corfflu Bargoed yn nodi dathliadau Byddin yr Iachawdwriaeth yng Ngŵyl Cwm Rhymni ar Fedi 21ain a 22ain 1968: 

‘Daeth 800 o bobl i’r dathliadau yn y Neuadd Ganolog ar y nos Sadwrn.

‘Rhoddodd yr adnabyddus, Band Chalk Farm o Lundain, berfformiad i ddathlu ugain o flynyddoedd. Arweinydd y Band oedd Michael Clack, ac roedd e’n rhan o wasanaethau’r Dydd Sul...

‘Soniodd y Cynghorydd Coleman, sydd bob tro yn barod i gefnogi gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth, am eu gwaith lleol gan wasanaethau eraill. Rhoddodd ganmoliaeth iddynt am y gwaith.

Gweddi

  • Rhown glod i Dduw am waith parhaol Byddin yr Iachawdwriaeth ym Margoed. 
  • Gweddïwch dros y rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan waith y corfflu. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags