Diwrnod 94: Cofio’r rheini sydd wedi rhoi o’u bywydau er lles eraill (1967)
Medi 19eg
Diwrnod 94 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Fydd yr Arglwydd ddim yn siomi ei bobl. Fydd e ddim yn troi cefn ar ei etifeddiaeth’ (Salm 94:14).
1967
Rhwng Awst 25ain a 27ain 1967, mynychodd The Beatles, Mick Jagger, Cill Black a Jane Asher seminar ym Mangor gan Maharishi Mahesh Yogi ar fyfyrdod trosgynnol.
Roedd The Beatles yn symbolau eiconig o’r chwedegau, cyfnod pryd y gwnaeth nifer cefnu ar y drefn arferol ac awdurdod confensiynol, gan gynnwys yr Eglwys. Serch hynny, mae bodau dynol yn fodau ysbrydol. Efallai eu bod nhw’n gwrthod crefydd draddodiadol ond yn dal ag awch ysbrydol - her yr ymatebodd Byddin yr Iachawdwriaeth iddi, yn ei dulliau nad oedd o reidrwydd yn draddodiadol, a her maent yn parhau i ymateb iddi. Mae stori Winnie Davies yn adlewyrchol o hynny.
‘Bydd nifer o ddarllenwyr yn ymwybodol o farwolaeth y nyrs cenhadol Winnie Davies, fu farw o ganlyniad i wrthryfelwyr y Congo ddydd Sul, Mai 27ain eleni. Bu hi’n nyrs yn Ysbyty Brenhinol Lerpwl, cyn mynd i’r Congo yn 1947. Aeth yno i sefydlu ysbyty yn Opienge a hyfforddi merched y Congo i fod yn nyrsys.
‘Cafodd Miss Davies ei geni yng Nghoedpoeth, Wrecsam. Roedd y bobl leol yn teimlo fel bod angen cofeb weledol fel atgof o’i chysegriad, aberth a’i dewrder wrth ledaenu’r efengyl.’
Gweddi
- Diolchwch i Dduw am y rheini sydd wedi rhoi o’u bywydau er lles eraill.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.