Diwrnod 93: Gweddïo dros y rheini a effeithiwyd gan drychineb Aberfan (1966)
Medi 18fed
Diwrnod 93 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Mae dy orchmynion di yn hollol sicr. Sancteiddrwydd sy’n addurno dy dŷ, O Arglwydd, a hynny am byth! ’ (Salm 93:5).
1966
Ar Hydref 21 1966, bu farw 116 o blant a 28 o oedolion yn nhrychineb Aberfan.
Roedd adroddiad yn War Cry Hydref 29ain yn trafod ‘gweinidogaeth ddiflino aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth’:
‘Ers canol dydd ddydd Gwener, ychydig o oriau ar ôl y trychineb, bu aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth yn gwasanaethu mewn tosturi trwy gydol y dydd. Bydd yr Uwch-gapten Arthur Petit (Merthyr Tydfil) a’r Capten Clifford Howes (Treharris), y corffluoedd agosaf at Aberfan, yn ymuno â gweinidogion lleol eraill i ymweld â thai'r sawl sydd mewn profedigaeth.’
Roedd yr Uwch-gapten Dorothy Graham yn rhan o ymateb Byddin yr Iachawdwriaeth i’r trychineb. Ar Fawrth 9fed 2010 cafodd ei chyfweld gan Steven Spencer sy’n gweithio yn yng Nghanolfan Dreftadaeth Ryngwladol Byddin yr Iachawdwriaeth. Dyma grynodeb o’i chyfweliad:
‘Disgrifiodd Dorothy Graham ei rôl fel arweinydd y corfflu ym Mhentre, Cymru. Disgrifiodd y profiad o glywed am y trychineb a pharatoi i helpu. Soniodd am gyrraedd lleoliad y trychineb am 18:45 ac am y gwaith oedd yn cael ei wneud i glirio’r slyri. Soniodd am y ffordd iddi gynorthwyo’r bobl a gafodd eu heffeithio gan y trychineb.
'Disgrifiodd y profiad o gydweithio gyda phobl o wasanaethau crefyddol eraill. Disgrifiodd yr effaith a gafodd y trychineb arni’n bersonol gan nodi sut mae ffydd Byddin yr Iachawdwriaeth yn ei galluogi i wneud pethau nad yw sefydliadau eraill yn gallu eu gwneud. ‘
Yn The Joystrings, ysgrifennodd Sylvia Dalziel:
‘Mae’n werth nodi mai nod y Cyngerdd Nadolig oedd codi arian ar gyfer Cronfa Trychineb Aberfan yn y Royal Albert Hall. Roedd un o aelodau’r Joystrings Ruth, a’i gwr Cliff Howes yn swyddogion Byddin yr Iachawdwriaeth yn Ne Cymru ac wedi rhoi cymorth i deuluoedd ar ôl y trychineb.’
Gweddi
- Gweddïwch dros y rheini sy’n dal i gael eu heffeithio gan drychineb Aberfan.
- Gweddïwch y bydd y plant sy’n mynychu’r ysgol yn yr ardal yn tyfu i fod yn aelodau cryf a gwerthfawr yn y gymdeithas.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.