Diwrnod 92: Gweddïo dros Diriogaeth y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (1965)
Medi 17eg
Diwrnod 92 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Mae’n beth da diolch i’r Arglwydd, a chanu mawl i dy enw di, y Duw Goruchaf’ (Salm 92:1).
1965
Dathlwyd canmlwyddiant Byddin yr Iachawdwriaeth yn ystod y flwyddyn hon. Yng Nghymru, roedd y dathliadau yn y cynnwys gwasanaeth o ddiolchgarwch yng Nghadeirlan Llandaf ar Orffennaf 8fed. Dyma’r adroddiad o War Cry:
‘Roedd ardal Llandaf yng Nghaerdydd yn llawn cyffro wrth i dros 1,500 o aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth gwrdd yn y gadeirlan i ddathlu’r canmlwyddiant. Gorymdeithiodd ryw 450 o’r aelodau am hanner milltir gan gael eu harwain gan fandiau’r Rhath a Grangetown. Roedd tua 30 o faneri yn cael eu chwifio a grwpiau o bobl mewn rhesi ar naill ochr y gadeirlan.
‘Cafodd faner Adran De Cymru ei rhoi ar yr uwch allor a’i derbyn gan y deon, y Gwir Barch Eryl Thomas. Croesawodd aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth ac yn ei bregeth, soniodd am eiddgarwch, ffydd a dulliau anarferol Byddin yr Iachawdwriaeth gan sôn yn benodol am y gwaith cymunedol lleol.
Roedd cynrychiolaeth Gymreig yn nathliadau’r canmlwyddiant yn Llundain (Mehefin 24 i Orffennaf 3) yn cynnwys:
- 26 Mehefin yn y Crystal Palace, Safle Seindorf 1 a 3, Band Treganna Caerdydd, Grwpiau Cludwyr y Fflam, Llanelli a Threforys.
- 28 Mehefin yn y Royal Albert Hall, Gŵyl Mawl y Canmlwyddiant, yn cynnwys Band Treganna Caerdydd yn chwarae Heroes of the Faith.
Gellir dod o hyd i ffilm o’r dathliadau ar Youtube: 1965 Salvation Army Centenary (youtube.com).
Gweddi
- Gweddïwch dros Dîm Arweinyddiaeth y Diriogaeth.
- Diolchwch i Dduw am y ffordd mae Tiriogaeth y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn parhau i gael effaith ar fywydau yn y 21ain ganrif.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.