Diwrnod 91: Cymryd Naid Ffydd (1964)
Medi 16eg
Diwrnod 91 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Dywedais, “Arglwydd, rwyt ti’n gaer ddiogel, yn lle hollol saff i mi fynd. Ti ydy fy Nuw i, yr un dw i’n ei drystio”’ (Salm 91:2).
1964
Yn ystod mis Hydref 1964, enillodd Lynn (the Leap) Davies y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo yng nghystadleuaeth y naid hir. Mesurodd y naid 8.07 metr. Dyma’r Cymro cyntaf (yn enedigol o Nant-y-moel) i ennill medal aur Olympaidd unigol.
Y Joystrings oedd grŵp pop arloesol Byddin yr Iachawdwriaeth. Cawson nhw record yn y siartiau yn 1964. Pan ei bod yn swyddog ifanc, roedd yr Is-gyrnol Sylvia Dalziel yn rhan o’r grŵp, a soniodd am gael lle yn y siartiau ar Ddydd Sant Ffolant yn y llyfr The Joystrings: ‘Ar Chwefror 14eg 1964, aeth “It’s an Open Secret” i mewn ar rif 16 – anrheg San Ffolant go arbennig i Fyddin yr Iachawdwriaeth!’
Mae hi hefyd yn sôn am ymweliad i Gaerdydd: ‘Roeddwn i wedi gwella ar ôl cael fy nharo’n wael gan lid y pendics ac felly yn gallu ymuno â’r grŵp yng Nghaerdydd ar benwythnos cyntaf mis Hydref...roedd y gyngerdd yn Neuadd y Cory ar y nos Sadwrn ac mewn sinema ar y prynhawn Sul.’
Roedd sawl ymweliad arall i Gymru gan gynnwys nifer o lefydd ar draws De Cymru gan gynnwys Senghennydd, Caerdydd a Chasnewydd.
Roedd Byddin yr Iachawdwriaeth wedi cymryd naid fawr. Roedd y Joystrings yn hynod lwyddiannus a hynny ymysg aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth a’r cyhoedd. Serch hynny, roedd rhai aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth yn feirniadol eu bod yn defnyddio ‘cerddoriaeth bop’ er mwyn rhannu’r efengyl - naid rhy fawr yn eu barn nhw!
Gweddi
- Sut y byddai naid ffydd yn edrych yn eich bywyd chi heddiw? Gofynnwch i Dduw am gymorth wrth i chi edrych am gyfleodd i’w glodfori.
- Ydy Duw yn ceisio siarad gyda chi am rywbeth penodol nad ydych wedi rhannu gyda neb arall eto? Tybed ai heddiw fydd y diwrnod i chi gymryd naid ffydd?
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.