Diwrnod 9: Gweinidogaeth y bandiau pres (1882)
26ain o Fehefin
Diwrnod 9 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Addolaf di, Arglwydd, o waelod calon; a sôn am yr holl bethau rhyfeddol wnest ti’ (Salm 9:1).
1882
Pedair blynedd ar ôl i’r Corfflu agor yn 1878: ‘Cynhaliwyd arddangosiad mawr gan fand pres Glynebwy a oedd yn gallu chwarae unrhyw beth am unrhyw gyfnod o amser heb stopio.’
(War Cry Awst 17eg, 1882)
Yn ystod blynyddoedd cynnar Byddin yr Iachawdwriaeth, roedd gan fandiau pres rôl bwysig iawn i’w chwarae yn ystod y gwasanaethau awyr agored. Roedd hwn yn hanfodol i dwf y mudiad. Doedd ansawdd y gerddoriaeth ddim bob tro yn wych ond roedd ganddynt niferoedd da. “Chwythu a chredu” oedd arwyddair answyddogol y bandiau cynnar hynny.
Gweddi
- Molwch Dduw am ddylanwad y bandiau pres o ddyddiau cynnar Byddin yr Iachawdwriaeth hyd at heddiw.
- Diolchwch am y rheini sy’n cyfansoddi cerddoriaeth sy’n codi ysbryd ac sy’n procio’r enaid.
- Diolchwch am y rheini sydd wedi ymroi i ddysgu eraill i ganu offerynnau.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.