Diwrnod 89: Gweddïo dros weinidogaeth awyr-agored (1962)
Medi 14eg
Diwrnod 89 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Ti sydd piau’r nefoedd, a’r ddaear hefyd; ti wnaeth y byd a phopeth ynddo’ (Salm 89:11).
1962
Yn 1962, dathlodd Gorfflu Abertawe ei ben-blwydd yn 80. Yn y llyfryn yn nodi’r dathliad roedd dau gyhoeddiad o’r dyddiau cynnar yn dangos y gwahaniaethau rhwng yn 1880au a’r 1960au.
GWYLIWCH! GWYLIWCH!
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi cymryd The Circus ar Stryd Richardson Street a bydd gwaith yn dechrau Dydd Sul nesaf...Yn ystod y diwrnod bydd yr Uwch-gapten Coombs a’r Genethod Haleliwia yn arwain yr ymosodiad.
DEWCH YN LLU
RHYFEL! GWAED! TÂN!
AC YMOSODIAD AR ABERTAWE.
Bydd saethiadau yn cael eu tanio a milwyr yn gorymdeithio gyda'u cleddyfau yn barod a bydd doctor y Fyddin yn cynorthwyo’r cleifion.
Ac felly dyma sut y daeth Byddin yr Iachawdwriaeth i Abertawe, dan arweiniad yr Uwch-gapten Coombs a’r Capten Kate Shepherd a oedd eisoes wedi arwain y diwygiad yng Nghwm Rhondda.
Roedd Byddin yr Iachawdwriaeth yn dal i orymdeithio yn Abertawe yn 1962. Yn ôl llyfrau hanes y corfflu ar Fehefin 9fed-11eg o roedd ‘Ymweliad Band Canolog Reading ar Benwythnos y Sulgwyn’. Mae’r adroddiad yn nodi:
‘Ar brynhawn dydd Llun perfformiodd y band rhaglen ym Mhafiliwn Patti a gafodd ei dilyn gan orymdaith unedig gyda band Corfflu Abertawe a chorffluoedd eraill yr ardal. Cafodd dathliad olaf y penwythnos ei gynnal yn Neuadd y Brangwyn gydag Arweinydd yr Adran, y Brigadydd Wm Davidson, yn arwain y noson.
Gweddi
- Oes yna weinidogaeth awyr agored yn digwydd lle rydych chi? Os oes yna, gweddïwch dros y rheini sy’n cymryd rhan.
- Os nad oes, efallai y gall hon fod yn weddi i chi: ‘Plîs Duw, rho arweiniad i ni ynglŷn â sut y gallwn ni ddefnyddio gweinidogaeth awyr agored i ddenu pobl i dy Deyrnas.’
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.