Diwrnod 88: Gweddïo dros y rheini sy’n arloesi gyda syniadau newydd dros y Deyrnas (1961)

Medi 13eg

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 88 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help Arglwydd. Dw i’n gweddïo arnat ti bob bore’ (Salm 88:13).

1961

Ar Hydref 1af 1961, ffilmiwyd y rhaglen gyntaf yn y gyfres BBC enwog Songs of Praise, yng Nghapel y Tabernacl, Caerdydd.  

Yn y degawd hwn, tyfodd poblogrwydd y teledu ac roedd mwy o sylw yn cael ei roi i gerddoriaeth pop yn lle jazz. Tyfodd ddylanwad seciwlariaeth dros Gristnogaeth hefyd.

Dechreuodd gyfres yn War Cry gyda’r ‘Top Note for Jazz Man’. Awdur y gyfres oedd Captain Fred Brown. Gadawodd ei waith fel swyddog ym Myddin yr Iachawdwriaeth ar ôl iddo gyhoeddi llyfr o’r enw Secular Evangelism. Yn y llyfr hwn nododd: ‘Mae Prydain yng nghanol chwyldro. Mae datblygiadau digynsail yn digwydd ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg ac mae cwestiynau moesol ac ysbrydol yn codi. Dylai’r newidiadau hyn gael eu croesawu, nid eu hofni. Dylwn nhw ddim cael eu dehongli fel gwrthryfel yn erbyn Duw.’ 

Roedd cyhoeddi The New English Bible a syniadau’r Cymro, yr Athro CH Dodd hefyd wedi derbyn tipyn o dawedogrwydd gan rai. Dyma beth oedd yn War Cry ar Fawrth 18fed 1961:

‘Mae cyfieithiad The New English Bible: New Testament … yn ganlyniad o 13 o flynyddoedd o waith gan grŵp gwych o ysgolheigion Beiblaidd. Yn ôl yr Athro CH Dodd [genedigol o Wrecsam], arweinydd y prosiect, y bwriad oedd cyflwyno “cynnwys mewn modd a all cael ei ddarllen, i ryw raddau, fel petai’n waith gan awdur Saesneg ar gyfer cyhoedd Saesneg”...

Gweddi

  • Gweddïwch dros y rheini sy’n herio’r ffordd yr ydym yn meddwl gan ddod â dealltwriaeth newydd a ffres i’r hyn a olygir i fod dilynwr Iesu yn y genhedlaeth hon.   

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags