Diwrnod 87: Diolch i Dduw am fendith cerddoriaeth (1960)
Medi 12fed
Diwrnod 87 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud amdani: “Mae ffynhonnell pob bendith ynot ti!”’ (Salm 87:7).
1960
Yn The South Wales Gazette a Newport News ar Dachwedd 11eg 1960 roedd y darn isod:
‘Yfory bydd gennym gyfle i dalu teyrnged i Fand Byddin yr Iachawdwriaeth yn Abertyleri wrth iddynt ddathlu ei ben-blwydd yn 70 - ie, 70! Roedd gan arloeswyr 1890 ddigon o frwdfrydedd er iddynt ond gael dau offeryn...am 64 o flynyddoedd mae arweinydd y band wedi bod yn rhan o’r teulu Veal [Albert a’i feibion Ray a Vincent].’
Roedd rhaglen y digwyddiad yn cynnwys ffaith ddiddorol am gyn-aelod o’r band:
‘Roedd Anthony Yorath, enillwr pencampwriaeth i chwaraewyr corned Prydain a hefyd prif chwaraewr corned ar gyfer Gardiau Grenadwr Ei Mawrhydi, wedi dysgu chwarae’r corned yn Abertyleri a chwaraeodd yn y band am gyfnod.’
Soniodd y rhaglen hefyd am ‘Howard Snell, yr arweinydd, cyfansoddwr a threfnydd bandiau pres’ gan nodi: ‘Roedd ei dad, Frank, yn chwaraewr bas yn y band cyn iddo fynd i’r coleg hyfforddi...ei dad-cu oedd Uwch-sarsiant y Corfflu Andrew Snell.’
Gweddi
- Diolchwch i Dduw am fendith cerddoriaeth. Myfyriwch ar eiriau’r Salmydd: ‘Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud amdani: “Mae ffynhonnell pob bendith ynot ti!”’ (Salm 87:7).
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.