Diwrnod 86: Gweddïo dros Bont-y-pŵl (1959)

Medi 11eg

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 86 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Bydda i’n dy addoli o waelod calon, O Arglwydd fy Nuw, ac yn anrhydeddu dy enw am byth’ (Salm 86:12).

1959

Talodd rhifyn Mawrth 21ain o Floedd y Gad, deyrnged i Gymro a dderbyniodd Urdd y Sylfaenydd yn 1923.  

‘Roedd y Brawd Tom Green o Bont-y-pŵl, hefyd yn wybyddus fel Prem Sagar, yn aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth gydol  ei oes. Am sawl blwyddyn roedd yn swyddog gyda’i wraig yn India, ble llwyddon nhw i wneud gwaith anhygoel gyda’r llwythau brodorol. Am y gwaith hwn y derbyniodd Urdd y Sylfaenydd.

Faint o bobl tybed, siaradodd gyda’r hen ddyn hwn yng Nghorfflu Pont-y-pŵl heb sylweddoli’r holl straeon anhygoel oedd ganddo i’w rhannu?

Gweddi

  • Gweddïwch dros y rheini sydd wedi dylanwadu ar fywydau eraill mewn ffordd gadarnhaol. Efallai nad ydynt wedi derbyn Urdd y Sylfaenydd, fodd bynnag, maent wedi arwain pobl i fywyd gorfoleddus gyda Duw.

1950–1959

Mae’r 1950au yn ymddangos fel cyfnod o adlewyrchu ac edrych yn nôl, cyn symud ymlaen i gyfnod y chwedegau. Mae atgofion o gorffluoedd yn gweithio gyda’i gilydd, colli Florence Booth a Dylan Thomas a diffyg cyllid a thrydan. Mae dyddiau cynnar ac ieuengrwydd y mudiad a swyddogion y corffluoedd hynny bellach wedi mynd. Pa mor llwyddiannus byddai’r mudiad “canol oed” hwn yn ymateb i heriau go iawn y chwedegau?

Discover more