Diwrnod 85: Gweddïo dros Gristnogion mewn chwaraeon (1958)
Medi 10fed
Diwrnod 85 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Dw i’n mynd i wrando beth sydd gan Dduw i’r ddweud: Ydy wir! Mae’r Arglwydd yn addo heddwch i’r rhai sy’n ei ddilyn yn ffyddlon – ond rhaid iddyn nhw beidio troi’n ôl at eu ffolineb!’ (Salm 85:8).
1958
Ar Fehefin 19eg 1958, cafodd dîm pêl-droed Cymru ei guro gan Frasil yn rownd go-gynderfynol Cwpan y Byd. Pelé sgoriodd yr unig gôl. Mae stori chwaraeon yng Nghymru yn aml yn adlewyrchu stori Dafydd a Goliath. Weithiau mae’r ffon dafl yn gweithio, ond fel profodd Goliath Brasil, dyw hynny ddim bob tro yn digwydd.
Aeth Brasil ymlaen i guro’r tîm cartref, Sweden. Cafodd y digwyddiad sylw yn rhifyn Gorffennaf 5ed o Floedd y Gad yn yr adroddiad am Gyngres Byddin yr Iachawdwriaeth a oedd yn cael ei chynnal yn Stockholm. Roedd y pennawd yn dweud: ‘Rownd Derfynol Cwpan y Byd yn methu cymharu â Llwyddiannau Iachawdwriaeth yn Stockholm’. Nododd yr erthygl: ‘Roedd baner Byddin yr Iachawdwriaeth yn cael ei chwifio ar hyd strydoedd y brif ddinas heno. Mae pawb yn hapus. Mae pobl o bob cenedl yma. Efallai nadd yw’r tîm cenedlaethol wedi ennill a bod pob person yn Sweden braidd yn siomedig ond llawenydd oedd yng ngwasanaethau’r gyngres a ddaeth y diwrnod i ben.’
Gweddi
- Gweddïwch dros Gristnogion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ac sy’n datgan enw Iesu.
- Gweddïwch dros y caplaniaid sy’n cefnogi clybiau a digwyddiadau chwaraeon.
- Gweddïwch dros y rheini sy’n cymryd rhan ym mhencampwriaeth pêl-droed pum bob ochr Byddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer y rheini sy’n profi digartrefedd. Mae hwn yn cynnwys rhai o breswylwyr Tŷ Gobaith yng Nghaerdydd.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.