Diwrnod 84: Gweddïo dros fandiau bach (1957)

Medi 9fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 84 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Dw i’n hiraethu; ydw, dw i’n ysu am gael mynd i deml yr Arglwydd. Mae’r cyfan ohono i yn gweiddi’n llawn ar y Duw byw!’ (Salm 84:2).

1957

Bu farw Florence Booth ar Fehefin 10fed 1957. Rhoddodd rhifyn Mehefin 22ain o Floedd y Gad, fewnwelediad i’w thrawsnewidiad. 

‘Roedd Florence Booth (née Soper) yn Llundain yn ymweld â ffrindiau pan welodd hysbyseb yn cyhoeddi bod Mrs Booth o Fyddin yr Iachawdwriaeth yn siarad mewn gwasanaeth yng Ngorllewin Llundain...Roedd gan neges bwerus Mrs Booth ffordd o gyffwrdd yr enaid...Daeth Florence i iachawdwriaeth trwy ei ffydd yng Nghrist. Aeth yn ôl i’w chartref yng Nghymru, yn benderfynol o ddilyn yr Iesu.’

Roedd yr un rhifyn o War Cry yn pwysleisio ei phryder ynglŷn â hawliau i fenywod: 

‘Roedd hi'n ymgyrchu’n ddiflino am yr anghydraddoldebau a oedd yn y gyfraith mewn perthynas â menywod. Dim ond ar ôl 1923 roedd y Ddeddf Achosion Priodasol wedi sicrhau cydraddoldeb rhwng dynion a menywod o ran ysgariad. Ond yn 1911, dywedodd Mrs Booth, “ni ddylai menyw gorfod aros gyda dyn sydd wedi bod yn anffyddlon, tra bod dyn yn cael gadael. Mae hwn yn rhoi menywod dan anfantais ac yn annog dynion i fod yn anffyddlon. Mae hyn yn adlewyrchu’r syniad bod dyn yn berchen ar ei wraig.”’

Roedd 1957 yn flwyddyn arbennig i Gorfflu’r Fenni. ‘Cawson ni ein gwahodd i gynrychioli bandiau bach yng Nghynhadledd Arweinwyr Band yn Neuadd y Royal Albert. Aethon ni i ymweld â Chorfflu Sutton hefyd.’ Yma, fe wnaeth y Band Staff Rhyngwladol croesawu’r band o naw i rannu’r llwyfan gyda nhw. Chwaraeon nhw “Southern Skies” a “Martial Hosts”. Derbyniodd y band gymeradwyaeth mawr.’   

Dywedodd un o’r rheini a oedd yng Nghorfflu Southend: ‘Cawson ni ddiwrnod gwych yn Sutton, yn ogystal â’r fendith ychwanegol o gael chwarae yn y gynhadledd. Mae digwyddiadau fel hyn yn pwysleisio’r rôl bwysig sydd gan fandiau bach fel y Fenni werth ledaenu’r neges am gariad Duw.’ 

(Daw’r wybodaeth gan yr Uwch-sarsiant Keith Jones, sydd bellach wedi ymddeol, o’r Fenni.) 

Gweddi

  • Gweddïwch dros fandiau bach, fel yr un yn y Fenni, sy’n cefnogi addoliad ble bynnag sy’n bosib. 
  • Gweddïwch y bydd bandiau llai yn cael ymuno i fod yn fandiau mwy pan fydd corffluoedd y Cynefin yn cyfuno i addoli. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags