Diwrnod 83: Gweddïo dros waith dyddiol swyddogion Byddin yr Iachawdwriaeth, arweinwyr corffluoedd a rheolwyr canolfannau (1956)

Medi 8fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 83 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘O Dduw, paid bod yn ddistaw! Paid diystyru ni a gwneud dim!’(Salm 83:1). 

1956

Mae llyfr hanes Corfflu Casnewydd II yn nodi sawl croeso a ffarwel i swyddogion yn ystod y 1950au. 

  • 14 Mai 1953 – Gwasanaeth Croeso’r Uwch-gapten Bailey o Bontymister.
  • 15 Mai 1954 – Gwasanaeth Ffarwel yr Uwch-gapten E Bailey i Shiremoor.
  • 20 Mai 1954 – Croesawu’r Capten a Mrs Tucker o Drewiliam.
  • 19 Mai 1955 – Capten a Mrs Tucker yn ffarwelio … mynd i Bontymister.
  • Mai 1955 – Croesawu’r Uwch-gapten Foster a’r Capten Beales.
  • 1956 – Gwasanaeth Croeso’r Capten D Burgess. 
  • 2 Medi 1956 – Gwasanaeth Ffarwel ar ôl cyfnod byr iawn. 
  • 6 Medi 1956 – Croesawu’r Uwch-gapten Grace Simons a’r Cennad Dorothy Elliss. 
  • 24 Tachwedd 1957 – Gwasanaeth Ffarwel yr Uwch-gapten Grace Simons a’r Cennad Dorothy Ellis.  

Yn That Contentious Spirituality, mae Melvyn Jones yn nodi: ‘Yn 2019 mae cyfran weddol isel o swyddogion yn sengl: 17%. Serch hynny, yn 1906 roedd y mwyafrif o swyddogion yn sengl: 67%. Tair ar ddeg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1893, roedd 81% o swyddogion yn sengl. Yn nyddiau cynnar y sefydliad roedd y rhan fwyaf o bobl yn sengl am eu bod yn ifanc. Mae Catherine Booth yn pwysleisio hynny. “Elfen bwysig i’w hystyried o ran ddyfodol Byddin yr Iachawdwriaeth yw ‘Ieuenctid ei Swyddogion’ - Mae’r mwyafrif o dan 25 mlwydd oed.” [The Salvation Army in relation to Church and State].’

Roedd rhagolwg y diwygiwr (tymor byr) ac ieuenctid y swyddogion (dim rhwymau teuluol) yn meddwl bod swyddogion y newid eu hapwyntiadau yn aml. Serch hynny, mae’r wybodaeth uchod yn dangos bod y dull hwn wedi parhau hyd at yr 1950au, hyd yn oed gyda swyddogion hŷn, priod.

Gweddi

  • Gweddïwch dros ddylanwad dyddiol a gweinidogaeth swyddogion Byddin yr Iachawdwriaeth rydych chi’n eu hadnabod.
  • Gwenwch restr o arweinwyr lleol eich corfflu a gweddïwch dros bob un yn unigol. 
  • Mae sawl rheolwr canolfan gyda ni yn Adran Cymru. Gweddïwch drostynt gan ofyn y bydd Duw yn eu bendithio, cefnogi, annog ac amddiffyn bob un ohonynt.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags