Diwrnod 82: Gweddïo am ddeffroad newydd i bŵer y Beibl (1955)

Medi 7fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 82 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Dylech roi dedfryd o blaid y gwan a’r amddifad! Sefyll dros hawliau'r rhai anghenus sy’n cael eu gorthrymu’ (Salm 82:3).

1955

Cafodd ddarllenwyr War Cry Ebrill 23ain wybodaeth galonogol am ‘Lwyddiant dosbarth Beibl yng Nghaerdydd’.

‘Dechreuodd dosbarth Beibl deunaw mis yn ôl yn Grangetown Caerdydd, ac mae’n ymddangos fel ei fod yn llwyddiant mawr. Mae cyfartaledd o 35 o bobl wedi bod yn mynychu a’r rhan fwyaf rhwng 14 a 25 mlwydd oed.

‘Mae’r problemau sy’n wynebu’r bobl ifanc hyn yn yr ysgol neu yn y gwaith yn cael eu delio gyda nhw ac maent yn croesawu cwestiynau ynglŷn â’r Ysgrythur ac athrawiaeth a rheolau Byddin yr Iachawdwriaeth. Maent hefyd yn cael awr o astudio’r Beibl. Dros y ddwy flynedd diwethaf mae ugain o filwyr newydd wedi cael eu comisiynu.’

Gweddi

  • Gweddïwch am ddeffroad newydd i bŵer y Beibl.
  • Gweddïwch dros y rheini sy’n paratoi ac yn cyflwyno astudiaeth o’r Beibl yn eich ardal chi fel rhan o wasanaeth Byddin yr Iachawdwriaeth.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags