Diwrnod 81: Gweddïo dros y rheini sy’n byw gyda dibyniaeth (1954)

Medi 6ed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 81 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Fi yr Arglwydd ydy dy Dduw di. Fi ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft. Agor dy geg, a bydda i’n dy fwydo! (Salm 81:10).

1954

Ar Ionawr 25ain 1954 cafodd y geiriau ‘A dechrau yn y dechrau’n deg’ eu dweud ar radio’r BBC gan Richard Burton ifanc. Daw’r geiriau enwog o ddarn agoriadol ‘Dan y Wenallt’. 

Cafodd y ddrama ei hysgrifennu gan Dylan Thomas. Cafodd ei eni yn Abertawe, ac mae’n cael ei ystyried fel un o feirdd mawr y cyfnod modern. Roedd yn boblogaidd iawn yn ystod ei fywyd a pharhaodd y poblogrwydd hwn ar ôl ei farwolaeth yn Efrog Newydd. Erbyn yr amser hynny roedd yn cael ei ystyried yn ‘branc, meddw a bardd anffodus’, geiriau a ddefnyddiodd i ddisgrifio’i hunain. Roedd yn 39 mlwydd oed pan fu farw. 

Mewn rhifyn o The Deliverer yn 1954, ysgrifennodd yr Is-gyrnol Madge Unsworth erthygl gyda'r teitl ‘Trychineb Trwy Ddiod’: 

‘Ydy cau’r tafarndai ar ddydd Sul yn achwyn neu’n fendith i Dde Cymru? 

‘Wrth i ni ysgrifennu, mae ymdrech mawr yn cael ei roi i wrthdroi cyfraith a gafodd ei basio dros gant o flynyddoedd yn ôl.

‘Yn wir, mae diod wedi achosi digon o broblemau ac anhapusrwydd i’r ddynoliaeth. 

Yn nhŷ Northlands yng Nghaerdydd, mae rhestr o enwau o ferched sydd wedi rhoi genedigaeth yno gydag amlinelliad bras o bob un o’r sefyllfaoedd. Y thema gyson yw effaith negyddol diod feddwol.

Gweddi

  • Mae’r broblem o ddibyniaeth a bod yn gaeth i rywbeth yn dal i achosi problemau i’n cymdeithas. Gweddïwch dros wasanaethau dibyniaeth Byddin yr Iachawdwriaeth fel y gallan nhw fod yn oleuni yn nhywyllwch y rheini sy’n dioddef o ddibyniaeth ar alcohol a/neu gyffuriau.
  • Mae mynediad hawdd i wefannau gamblo wedi cynyddu’n sylweddol ac mae hwn yn achosi problemau mawr i rai. Gweddïwch dros y bobl sy’n rhoi cymorth i’r rheini sy’n gaeth i gamblo. 
  • Os ydych chi’n filwr ym Myddin yr Iachawdwriaeth, diolchwch i Dduw eich bod chi wedi gwneud addewid i gadw draw rhag y dibyniaethau niweidiol hyn. 
  • Gweddïwch dros y rheini sydd wedi dod o hyd i Fyddin yr Iachawdwriaeth trwy droi atynt fel lle diogel rhag dibyniaeth. 

Discover more