Diwrnod 80: Diolchwch i Dduw am gyfeillgarwch (1953)
Medi 5ed
Diwrnod 80 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Gwrando, o fugail Israel sy’n arwain Joseff fel praidd. Ti sydd wedi dy orseddu uwch ben y ceriwbiaid, disgleiria’ (Salm 80:1).
1953
Mae yna sawl llythyr wedi dyddio rhwng 1953 a 1957 rhwng y Comisiynydd Catherine Bramwell Booth, Cyrnol Uwch-gapten Mary B Booth a’r Uwch-sarsiant George Jones o gorfflu Abersychan. Mae Catherine yn sôn am ei mam, Florence Booth, a fu farw yn 1957. Dyma ambell ddarn o’r llythyrau:
‘Roedd fy mam yn falch o gael llythyr gennych chi adeg y Nadolig. Mae hi’n gofyn imi ddweud wrthoch chi ei bod hi’n dda iawn ac yn moli Duw am ei ddaioni i ni fel teulu.’ (1953)
‘Mae llythyr hwn yn dod â siom. Rydym wedi trafod y peth, ac mae’n ymddangos fel na all yr un ohonom ddod i fod gyda chi ar gyfer y dathliadau pen-blwydd ym mis Mai. Mae fy chwaer Olive wedi bod yn sâl iawn ac felly yn gorfod aros yn y gwely...Dyw Cyrnol Mary ddim yn gallu dod chwaith ac mae’n rhaid i mi a’m chwaer Dora aros er mwyn edrych ar ôl y rheini sydd yn y tŷ.’ (1954)
‘Rwy’n flin, ond heb synnu bod yr amser wedi dod i chi gamu’n ôl ac ymddeol. Mae’r swydd uwch-sarsiant y corfflu yn swydd anodd dros ben, ond am record ichi ei osod!...Mae fy mam annwyl yn parhau i fod yn wan ac yn fregus. Ychydig o ddiwrnodau yn ôl, daeth ei thymheredd uchel yn ôl, ond mae bellach wedi mynd ac mae hi’n gallu eistedd i fyny am ychydig bob dydd.’ (1957)
Gweddi
- Diolchwch i Dduw am eich ffrindiau Cristnogol ac am eich ffrindiau sydd ddim eto’n Gristnogion.
- Diolchwch i Dduw am gyfeillgarwch Iesu.
O’r fath gyfaill ydyw’r Iesu,
Ffrind ym mhob ystorom gref;
O’r fath fraint yw mynd â’r cyfan
Yn ein gweddi ato ef.
O’r tangnefedd our a gollwn,
O’r pryderon rŷm yn dwyn,
Am na cheisiwn fynd yn gyson
Ato ef i ddweud ein cwyn.
(Song Book of The Salvation Army, 795, cyfieithiad Nantlais, Caneuon ffydd 345)
- Os ydych chi’n hoff o ganeuon addoli modern yn ogystal â’r emynau mwy traddodiadol, efallai byddech chi’n hoffi cymryd ychydig o amser i wrando ar y fersiwn hwn: Matt Maher, ‘What a Friend’.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.