Diwrnod 8: Bendith Wrecsam (1881)
25ain o Fehefin
Diwrnod 8 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Gyda lleisiau plant bach a babanod rwyt yn dangos dy nerth, yn wyneb dy elynion, i roi diwedd ar y gelyn sy’n hoffi dial’ (Salm 8:2).
1881
Cafodd y cyfarfod cyntaf ei gynnal yn Wrecsam ar Hydref 23ain 1881. Daeth y criw o filwyr yn Wrecsam i gael eu hadnabod fel “Y Bois Gweddïo” oherwydd eu brwdfrydedd wrth weddïo.
Dau Swyddog Benywaidd ifanc a ddechreuodd y gwaith yng nghorfflu Wrecsam. Fodd bynnag, nid gan Swyddogion y dechreuwyd y gwaith yn Nhrefforest , ond fe ddechreuwyd gan bobl leol a oedd wedi bod yn dyst i waith Byddin yr Iachawdwriaeth mewn mannau eraill.
Roedd gan Gorfflu Trefforest, rhan fach, ond nid di-nod yn y Diwygiad Cymreig enwog rhwng 1904-1905. Dyma le y cafodd Seth Joshua ei dröedigaeth. Fe ddaeth Seth Joshua yn weinidog a roddodd bregeth ym Mlaenannerch a gafodd effaith ar fywyd dyn ifanc o’r enw Evan Roberts. Aeth Evan Roberts ymlaen i chwarae rôl flaengar yn y Diwygiad Cymreig yn 1904.
Gweddi
- Gweddïwch y bydd brwdfrydedd y ‘Bois Gweddïo’ yn nodweddu gweddïau Corfflu Wrecsam y dyddiau hyn.
- Gweddïwch y bydd y corfflu yn mynd o nerth i nerth.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.