Diwrnod 79: Gweddïo dros Orllewin Cymru (1952)

Medi 4ydd

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 79 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Helpa ni, O Dduw ein hachubwr, er mwyn dy enw da. Achub ni a maddau ein pechodau, er mwyn dy enw da’ (Salm 79:9).

1952

Agorodd preswylfa i fenywod ifanc ar Heol y Gadeirlan, Caerdydd. 

Roedd adroddiad yn War Cry ar Ragfyr 13eg yn trafod ymgyrch yng nghymoedd Gorllewin Cymru: 

‘Yn ddiweddar, aeth y Brigadydd Edmund Taylor, arweinydd yr adran, gyda grŵp o swyddogion gwrywaidd yr adran i ymdeithio am bedwar o ddyddiau trwy gymoedd Gorllewin Cymru. Roedd gan bob un ohonynt offerynnau pres gyda’r bwriad o rannu’r efengyl mewn cymunedau, sydd i’r rhan fwyaf, yn eithaf pell o gorfflu Byddin yr Iachawdwriaeth.

‘Daethon nhw i stop mewn 39 o ganolfannau er mwyn cynnal gwasanaethau awyr agored. Cysylltodd y swyddogion gyda glowyr, gweithwyr ffatri, gyrrwyr bysus a siopwyr benywaidd. Yn y strydoedd, gadawon nhw eu hofferynnau er mwyn mynd i mewn i dai ble rhannon nhw eiriau o gymorth a darn o’r ysgrythur.

‘Daeth yr ymgyrch i ben gyda gwasanaeth yng Nghorfflu Abertawe. Roedd y gynulleidfa yn hapus iawn wrth glywed y straeon o’r ymgyrch.’ 

Gweddi

  • Sut ydym yn cyrraedd cymunedau Gorllewin Cymru heddiw? Efallai drwy’r cyfryngau cymdeithasol? Gofynnwch i Dduw beth y gallwn ni ei wneud? Gweddïwch dros unigolion wedi’u llenwi â’r Ysbryd ac sy’n fodlon ymgymryd â’r dasg. 
  • Gweddïwch dros y rheini sydd yng Ngorllewin Cymru ac sy’n lledaenu’r newyddion da am Iesu. Gweddïwch am fywydau’n cael eu trawsnewid. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags