Diwrnod 78: Gweddïo dros y cymoedd (1951)

Medi 3ydd

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 78 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘A byddwn ni’n eu rhannu gyda’r plant, ac yn dweud wrth y genhedlaeth nesa. Dweud fod yr Arglwydd yn haeddu ei foli! Sôn am ei nerth a’r pethau rhyfeddol a wnaeth’ (Salm 78:4).

1951

Yn The Old Glory Shop (1951) ysgrifennodd Thomas Cadwaladr Parry am gorffluoedd Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghwm Rhondda:  

‘Dw i ddim yn teimlo fod angen ysgrifennu cyflwyniad i gyfrol mor fach, gan fod y gyfrol ei hun ond yn gyflwyniad o’r dechrau i’r diwedd i’r hyn a ellir dweud am yr Old Glory Shop a gweithgareddau Byddin yr Iachawdwriaeth yn Nhrewiliam a Phenygraig dros y 54 o flynyddoedd diwethaf. 

‘Mae pob corfflu yn y cwm yn barod i gynorthwyo’i gilydd - a pham lai? Un Fyddin ydym ni, yn anelu am yr un nod, yr un fuddugoliaeth a phregethu’r un efengyl. Mae wedi datblygu yn draddodiad ar hyd y blynyddoedd bod y corffluoedd yn ymuno ym mhob corfflu yn y gwanwyn. Llun y Pasg yn Nhrealaw, Dydd Mawrth yn y Gelli; dydd Llun cyntaf mis Mai yn y Porth; dydd Llun Sulgwyn yn Nhrewiliam, a’r dydd Mawrth yn Nhreherbert. Mae’r gwasanaethau ym mhob corfflu yn llwyddiannus iawn, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae lleihad wedi bod yn y niferoedd sy’n mynychu gan fod gymaint yn gweithio. 

‘Hoffwn bwysleisio'r angen mawr am weddi yn y dyddiad hwn. Gadewch inni weddïo am ddiwygiad mawr oherwydd dim ond diwygiad crefyddol a all oedi’r llif o ddrygioni sydd o’n hamgylch. Boed i’r ddaear dod mewn edifeirwch a ffydd at groes Crist.’

Gweddi

  • Mae cais Thomas Cadwaladr Parry yn gais sy’n addas heddiw hefyd. Ymunwch gyda’r rheini sy’n darllen am ac yn gweddïo dros ddiwygiad yng nghymoedd Cymru. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags