Diwrnod 77: Gweddïo dros y rheini sy’n byw mewn tlodi (1950)
Medi 2il
Diwrnod 77 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Na! Ti ydy’r Duw sy’n gwneud pethau anhygoel! Ti wedi dangos dy nerth i’r bobloedd i gyd’ (Salm 77:14).
1950
Roedd teyrnged yn War Cry Mehefin 10fed o dan y pennawd: ‘Gwasanaethu’r Tlawd yn Enw Crist’. Roedd yr adroddiad yn sôn am fywyd swyddog o Gymru a’i gwasanaeth aberthol:
‘Treuliodd y Penswyddog Mary Gurmin eu blynyddoedd yn gwasanaethu ar ôl dod yn swyddog y corfflu yn Nhreharris - ymysg y tlawd iawn. Aeth ymlaen i weithio mewn hostel yn Whitechapel. Aeth yn ddall, ond parhaodd gyda’i gwaith. Hyd yn oed yn ystod eu hymddeoliad, parhaodd i gynorthwyo’r rheini o’i hamgylch. Pan ddaeth yr Alwad Adref roedd y penswyddog yn barod.’
Gweddi
- Pa fath o gymorth sydd ar gael i bobl sy’n byw mewn tlodi yn eich ardal chi. Oes banc bwyd sydd angen gwirfoddolwyr? Oes yna rywbeth y gallwch chi eu gwneud i gefnogi’r rheini sy’n gwneud y gwaith hwn? Gofynnwch i Dduw ddangos i chi beth sydd angen arno gennych.
- Gweddïwch dros y rheini rydych chi’n ymwybodol ohonynt sydd ar hyn o bryd yn profi tlodi.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.