Diwrnod 76: Gweddïwch dros y gras sydd angen arnoch i fod yn dduwiol (1949)

Medi 1af

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 76 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Gwnewch addunedau i’r Arglwydd eich Duw, a’u cadw! Boed i bawb sydd o’i gwmpas ddod â rhoddion i’r Duw sydd i’w ofni!’ (Salm 76:11).

1949

Yn rhifyn Chwefror 26ain o War Cry, ysgrifennodd Brindley Boon am ei ‘bererindod’ i Dŷ Ddewi, dinas leiaf Prydain sydd â’r gadeirlan hynaf: ‘Am tua dwy awr crwydrais drwy’r rhodfannau cysegredig a’r gofeb sanctaidd. Stopiais bob hyn a hyn er mwyn ymgyfarwyddo â’r nodweddion a oedd o ddiddordeb penodol...Ar fy mhererindod yn ôl, es i drwy’r dref gysglyd gyda’i thair stryd, lonydd dirdro a ffermydd bach - dinas sydd wedi newid braidd dim dros y 14 canrif ddiwethaf.’   

Dewi Sant yw nawddsant Cymru. Rydym yn ei ddathlu yn genedlaethol ar Fawrth y 1af. Cafodd Dewi Sant ei addysg gychwynnol ar y safle sydd bellach yn ddinas sydd wedi enwi ar ei ôl ... roedd yn ardal yn hefyd yn cael ei chyfeirio ati fel ‘meithrinfa seintiau’.  

Nid oes gan Fyddin yr Iachawdwriaeth broses o ganoneiddio, sef y cyflwyniad swyddogol i fod yn sant. Does dim hanes o bererindod gan Fyddin yr Iachawdwriaeth chwaith. Serch hynny, mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi cynnig llwybr i sancteiddrwydd, meithrinfa seintiau, ar hyd y blynyddoedd. Er nad yw seintiau wedi cael ei henwi, yn eu rhengau mae sawl dyn a menyw gyffredin sydd wedi byw bywydau llawn sancteiddrwydd.

‘Sawl blynedd yn ôl canfyddais fy hun mewn tafarn fach yn Abersychan, De Cymru yn gwerthu papurau Byddin yr Iachawdwriaeth. Fel un o Ogledd Cymru, ges i ychydig o amser caled gan y milwyr cadarn a chaled ond roedd popeth wedi cael ei wneud mewn hwyliau da. Ar ôl y gwawdio cychwynnol, dechreuon nhw siarad am eu parch tuag at chwaraewr corned o fand Byddin yr Iachawdwriaeth leol a oedd yn gweithio i lawr y pwll gyda nhw. Ni ddefnyddion nhw eiriau megis ‘sanctaidd’ neu ‘ysbrydol’ a doedd eu sylwadau ddim yn deimladwy. Ond gwnaeth y glowyr cadarn a chaled hyn wneud hi’n hollol glir bod y dyn cyffredin hwn, a oedd yn chwarae’r corned yn y band pob dydd Sul, yn byw bywyd duwiol pob dydd o’r wythnos, gan gynnwys milltiroedd o dan ddaear yn y pyllau glo.’

(Melvyn Jones, That Contentious Spirituality)

Gweddi

  • Ar ôl darllen y darn uchod, efallai eich bod chi’n ymwybodol o rywun sydd wedi bod yn ‘sant’ i chi. Efallai mai’r person a gyflwynoch chi i Fyddin yr Iachawdwriaeth ydyn nhw. Diolchwch i Dduw am y person hwnnw nawr. 
  • Ystyriwch eich bywyd duwiol chi, yn y gwaith, mewn chwarae ac yn y tŷ. Ymgrymwch yn ufudd i flaen eich Iachawdwr yn nawr, yn diolch iddo am barhau i’ch arwain, cryfhau a’ch amddiffyn er mwyn bod y ‘sant’ rydych chi. 

1940–1949

Stori’r byd yn rhyfela yw stori’r 1940au. Roedd raddfa'r farwolaeth mor fawr, ond wrth i’r bomiau gwympo, ymatebodd aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth gyda chymorth ymarferol. Bu ‘farw’ corfflu Penfro, ond cafodd ei ‘atgyfodi’ o fewn blwyddyn. Bu ‘farw’ corfflu Dinbych hefyd ond mae’r corfflu hwnnw heb gael ei ‘atgyfodi’ eto. Mae’r stori yn parhau.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags