Diwrnod 75: Gweddïo dros weinidogaeth adeg y Nadolig (1948)
Awst 31ain
Diwrnod 75 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Ond bydda i’n ei glodfori am byth, ac yn canu mawl i Dduw Jacob’ (Salm 75:9).
1948
Ym mis Rhagfyr 1948, roedd llyfr hanes Corfflu Llanelli yn nodi: ‘Roedd y flwyddyn hon yn record wrth i’r band chwarae adeg y Nadolig; casglon nhw [y band] £67. Dechreuon nhw ar y 30ain o Dachwedd 1948 gan chwarae carolau bob noswaith hyd at Ddiwrnod y Nadolig pan aethon nhw i Ysbyty Bryntirion, Heol Abertawe gan chwarae carolau i’r cleifion.’
Mae’n ddiddorol i nodi rhywbeth am hanes Ysbyty Bryntirion ac arwyddocâd band Corfflu Llanelli yn mynd i chwarae yno'r Nadolig hwnnw. ‘Daeth Sefydliad Cyfraith Dlawd Llanelli i ben ar Orffennaf 5ed 1948 o ganlyniad i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac yna Ysbyty Bryntirion. Erbyn y mis Rhagfyr roedd y mwyafrif o gleifion yn hen bobl’ (Treftadaeth Gymunedol Llanelli).
Mae rhai bandiau Byddin yr Iachawdwriaeth yn dal i ymweld ag ysbytai ar Ddydd Nadolig.
Gweddi
- Mae’n ymddangos braidd yn rhyfedd i fod yn gweddïo am weinidogaeth adeg y Nadolig ym mis Awst! Gweddïwch dros gorffluoedd ble mae’r bandiau yn dal i wasanaethu’r gymuned.
- Gweddïwch dros aelodau o fandiau mwy sy’n rhoi cymorth i fandiau llai adeg y Nadolig a gweddill y flwyddyn.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.