Diwrnod 74: Ffarwelio a dechreuadau newydd (1947)
Awst 30ain
Diwrnod 74 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Cod, O Dduw, a dadlau dy achos! Cofia fod ffyliaid yn dy wawdio drwy’r adeg’ (Salm 74:22).
1947
Yn ôl yr adroddiad, agorodd Corfflu Dinbych yn 1888. Caeodd ar yr 22ain o Fedi 1947. Mae gan Ganolfan Treftadaeth Ryngwladol Byddin yr Iachawdwriaeth copi o gerdyn a gafodd ei rannu gan swyddog y corfflu yn 1910.
Byddin yr Iachawdwriaeth, Dinbych
Arwyddair ar gyfer 1910
MAE EF YN GWYBOD
Mae Duw yn dal allwedd pob peth anhysbys
Ac rydw i’r falch;
Os oedd yr allwedd yn nwylo rhywrai eraill,
Neu os byddai Ef wedi ymddiried yr allwedd i mi,
Rydw i’n credu y byddwn i’n drist.
Capten F Jacob & Is-gapten M Broome
Gan ddymuno pob dymuniad da i chi ar gyfer Blwyddyn Newydd hapus a llewyrchus.
Mae’n siŵr y bydden nhw wedi bod yn drist o glywed y newyddion am gau’r corfflu yn 1947 neu efallai y bydden nhw wedi llawenhau am gael 37 o flynyddoedd ychwanegol i wasanaethu’r gymuned. Nid yw rhoi ffocws ar gau corfflu yn adrodd y stori gyfan.
Gweddi
- Ydych chi’n ymwybodol o bryd y dechreuodd eich corfflu chi? Diolchwch i chi am y dechreuad newydd hynny a bod y corfflu yn parhau i wasanaethu’ch cymuned.
- Efallai bod eich corfflu yn cynllunio dechreuad newydd o ryw fath - amser newydd ar gyfer eich cyfarfod gweddi, dechrau astudiaeth o’r Beibl neu waith estyn allan newydd. Gweddïwch dros y fenter newydd honno.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.