Diwrnod 73: Gweddïo dros Famau a Phlant (1946)

Awst 29ain

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 73 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Ac eto, dw i’n dal gyda thi; rwyt ti’n gafael yn dynn ynof fi’ (Salm 73:23).

1946

Roedd rhifyn Hydref-Tachwedd o’r Deliverer yn cynnwys erthygl gyda’r teitl ‘I Famau a Babanod’: 

‘Flynyddoedd yn ôl, cafodd fam ddibriod, a oedd yn alltud o’i theulu parchus, ymweliad gan un o’r swyddogion cymdeithasol oedd yn gweithio’n benodol gyda menywod. Cafodd y swyddog ei digalonni wrth weld y ferch. 

‘O’r foment honno, aeth ati i sicrhau nad oedd unrhyw ferch arall yn yr un sefyllfa trwy sefydlu ysbyty mamolaeth. Dyma phryd y dechreuodd Northlands yng Nghaerdydd ei gwaith. Mae bellach yn ganolfan sy’n defnyddio pob math o ddulliau modern i gynorthwyo mamau a’u plant. Mae galw mawr am y llety sy’n cael ei ddarparu ganddynt. 

‘Y swyddog a oedd yn gyfrifol oedd yr Is-gyrnol Agnes Swain... un o’i lleoliadau cyntaf oedd yn lloches menywod Stryd Hanbury, yn Ne Ddwyrain Llundain a hynny yn ystod cyfnod “Jack the Ripper”’.

Gweddi

  • Diolchwch i Dduw am eich mam chi neu’r person oedd yn fam i chi. 
  • Gweddïwch dros famau sengl sy’n cael trafferth gyda’r perthnasau yn eu teuluoedd nhw. 
  • Gweddïwch dros famau sydd wedi colli’u gwŷr yn sydyn ac felly yn magu plant ifanc ar eu pen eu hunain.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags