Diwrnod 72: Gweddïo dros Gaerffili (1945)
Awst 28ain
Diwrnod 72 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Bydd pobl yn dy addoli tra bydd haul yn yr awyr, a’r lleuad yn goleuo, o un genhedlaeth i’r llall’ (Salm 72:5).
1945
Daeth y rhyfel yn Ewrop i ben ar Fai 8fed 1945, y diwrnod sy’n cael ei gofio fel ‘Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. (VE Day) Ond ar Fai 19eg, datganodd y Cadfridog George Carpenter, ‘Mae’n rhaid i ni frwydro ‘mlaen!’ Ysgrifennodd:
‘Ar y diwrnod hanesyddol hwn, rydw i’n galw ar aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth ar hyd y wlad i drawsnewid eich llawenydd a’ch rhyddhad er mwyn canolbwyntio ar drywyddau newydd a thasgau pwysig.
‘Yn ei dosturi anfeidrol, mae Duw yn rhoi un cyfle ychwanegol i’r byd gorllewinol er mwyn gwrthdroi’r camgymeriadau sydd wedi cael eu gwneud.
‘Heddiw rwy’n gweld y byd gorllewinol fel maes y gad, wedi’i ddrysu mewn blinder, ble mae bloeddiau buddugoliaeth yn dirwyn i ben. Oes yna galonnau eraill yn awchu am orfoledd?’
Mae llyfr hanes corfflu Caerffili yn adrodd y canlynol:
8 Mai
‘Mae heddwch wedi cael ei gyhoeddi yn Ewrop. Mae rhyddhad mawr yn cael ei deimlo ar ôl chwe blynedd o ryfel ofnadwy. Rydym wedi dosbarthu pamffledi i Stryd Lawrence a Heol Pontgwindy ac yn ein gwasanaeth Diolchgarwch roedd torf wych yn bresennol. Rhoddodd trigolion Stryd Lawrence te yn y stryd. Dechreuon ni gyda gweddi a dechreuodd arweinydd y corfflu'r canu cymunedol.’
21 Mai
‘Trefnodd ein band orymdaith a chwarae cerddoriaeth ar gyfer y gwasanaeth diolchgarwch a gafodd ei drefnu gan gyngor Caerffili er mwyn dathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.’
Gweddi
- Gweddïwch dros dref Caerffili. Diolchwch i Dduw am dreftadaeth Byddin yr Iachawdwriaeth yn yr ardal.
- Gweddïwch dros ymdrechion Byddin yr Iachawdwriaeth i gynyddu’r gwaith o addoli a gwasanaethu yn y dref.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.