Diwrnod 71: Gweddïwch dros wleidyddion yng Nghymru a dros y Senedd (1944)
Awst 27ain
Diwrnod 71 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Bydd yn graig i mi gysgodi tani - yn gaer lle bydda i’n hollol saff! Ti ydy’r graig ddiogel yna; ti ydy’r gaer’ (Salm 71:3).
1944
Yn y flwyddyn hon, trosglwyddodd Plaid Cymru ei phencadlys o Gaernarfon i Gaerdydd.
Dengys y cyfrifiad yn 1911 mai 43% o boblogaeth Cymru oedd yn siarad y Gymraeg er bod pum sir ble roedd y Gymraeg yn iaith fwyafrifol - gyda mwy na 80% o bobl yn siarad yr iaith.
Roedd tair o’r siroedd hyn yn y gogledd orllewin ac yn gynnwys sir Gaernarfon. Mae hynny’n egluro pam mai yng Nghaernarfon oedd pencadlys Plaid Cymru (yn 1925). Agorwyd y corfflu cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghaernarfon yn 1886. Yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Floedd y Gad trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae symudiad Plaid Cymru o Gaernarfon i Gaerdydd yn pwysleisio lle mae pŵer gwleidyddol Cymru.
Gweddi
- Gweddïwch dros eich cynghorwyr lleol ac eich aelod Seneddol (AS). Dilynwch y ddolen hon os nad ydych yn ymwybodol pwy yw eich AS https://senedd.cymru/dod-o-hyd-i-aelod-o-r-senedd/.
- Gweddïwch dros wleidyddion o bob plaid ac y bydden nhw’n cyflawni eu gwaith gyda doethineb, gonestrwydd a thrugaredd.
- Gweddïwch drostyn nhw a’u teuluoedd ac y bydden nhw’n cael eu hamddiffyn gan gamdriniaeth a bygythiad, sydd weithiau’n rhan o fywyd gwleidyddol heddiw.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.