Diwrnod 70: Diolch i Dduw am y rhodd o letygarwch (1943)
Awst 26ain
Diwrnod 70 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Ond gwna i bawb sy’n dy geisio di ddathlu’n llawen! Gwna i’r rhai sy’n mwynhau dy weld ti’n achub ddweud, “Mae Duw mor fawr!”’ (Salm 70:4).
1943
‘Cafodd Eva Maud [née Newcombe] ei geni ym Mhontypridd a phan oedd hi’n bythefnos oed cafodd ei thad ei ddenu i gyfarfod awyr agored Byddin yr Iachawdwriaeth...Roedd yr hyn a glywodd ac a welodd gan William Booth wedi ei ddenu cymaint iddo fynd i fwy o gyfarfodydd. Cafodd ei fywyd ei drawsnewid ac roedd y gwahaniaeth a welodd ei wraig [Mrs Newcombe] yn ei ymddygiad yn syfrdanol ac aeth y ddau ymlaen i weithio yn ddiwyd yn y corfflu lleol.
‘Symudodd Maud [gyda’i rheini] i Gaerloyw. Roedd cwpwl newydd yna, y Brawd a’r Chwaer Walkley ac roedden nhw wedi rhoi ffocws ar sicrhau bod eu cartref yn lle o ffydd a chyfeillach. Roedden nhw’n barod i groesawu unrhyw un i mewn i’w cartref gan gynnwys ambell garcharwr rhyfel.
‘Y gwaith hwn gyda’r personél milwrol a arweiniodd at roi Urdd y Sylfaenydd i Mrs Walkley gan y Cadfridog Wilfred Kitching yn 1963’ (Albert Kenyon, In High Esteem).
Nid Maud oedd y fenyw Gymreig cyntaf i dderbyn anrhydedd uchaf Byddin yr Iachawdwriaeth. Yn 1927 derbyniodd y Chwaer Bessie Davies Urdd y Sylfaenydd am ‘ddechrau a chydlynu gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth ym Mhenrhyndeudraeth, a hynny yn wirfoddol’ (Blwyddlyfr Byddin yr Iachawdwriaeth 1966).
Gweddi
- Gweddïwch dros y bobl rydych chi’n ei hadnabod sy’n dangos lletygarwch i eraill.
- Diolchwch i Dduw amdanynt.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.