Diwrnod 7: Bendith y Gwasanaethau Argyfwng (1880)

24ain o Fehefin

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 7 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘A bydda i’n moli’r Arglwydd am fod mor gyfiawn, ac yn canu emyn o fawl i enw’r Arglwydd Goruchaf’ (Salm 7:17).

1880

‘Cipio Gogledd Cymru!

[Y Cadfridog wrth Railton] ‘Rwyf yn eich awdurdodi i godi byddin arbennig ar gyfer Iachawdwriaeth Cymru, o dan yr enw “Y Mynyddwyr”. Dylid dechrau trwy gipio siroedd y Fflint a Dinbych cyn gynted â phosib.’

[Railton wrth y Cadfridog] ‘Diolch, mae gen i 20 o wirfoddolwyr sy’n barod i dderbyn gorchymyn. Rwy’n gobeithio cael 200 o enwau cyn hir a byddaf yn dewis o’r enwau hynny rhai addas i ennill y Dywysogaeth.’ 

(War Cry Rhagfyr 27ain, 1879)

Serch hynny, erbyn Chwefror 1880, cafodd Railton ei ailbenodi i arwain grŵp bach o swyddogion benywaidd i gynrychioli Byddin yr Iachawdwriaeth yn yr Unol Daleithiau. Byddai stori hollol wahanol wedi bod yng Ngogledd Cymru ac yn yr Unol Daleithiau pe na chafodd Railton ei ailbenodi. 

‘Dydd Sadwrn Rhagfyr 11eg 1880

‘Rwy’n flin i ddweud ond mae’r trychineb mwyaf ofnadwy wedi digwydd yma - ffrwydrodd dau bwll glo ar yr un pryd gan gladdu 88 o ddynion...

‘Dw i wedi bod i ymweld ag ambell deulu, dim ond sŵn wylo sydd yma.’ 

(War Cry Rhagfyr 18fed, 1880)

‘Ffrwydrad Ofnadwy ym Mhenygraig, De Cymru 

‘Gan Uwch-gapten Blandy

‘Dau Bwll ar Dân - 101 o Fywydau wedi’u Colli - Griddfannau Teuluoedd mewn Profedigaeth - Gwaith Achub Gwrol - Pedwar Dyn wedi’i Darganfod yr Un Pryd - Achub un Glöwr ar ôl 38 Awr yng Ngenau Marwolaeth. 

‘…gan wybod bod nifer o’n pobl ni yn y fan honno, es i yn syth i weld Capten Crouch yn NHREALAW i ddarganfod nad oedd un o’n milwyr ni wedi bod yn y pwll, ond gan obeithio helpu rhai oedd mewn galar...

‘Dydd Sul 12fed, diwrnod ni chaiff fydd ei anghofio yn Nhrealaw a Phenygraig. Cafodd gwasanaethau eu cynnal ym mhob man, mewn bythynnod gan Gymdeithasau Crefyddol. Daeth ein milwyr o bob gorsaf yn y Rhondda, a bellach i ffwrdd. Roedd y cyfarfod gweddi yn Nhrealaw yn bwerus. Cwrddon ni a gorymdeithio mewn tawelwch i’r pwll. Yna, dechreuon ni wasanaeth awyr agored nid yn rhy bell o leoliad y trychineb. Roedd degau o filoedd o bobl yno'r diwrnod hwnnw...’

(War Cry Rhagfyr 30ain, 1880)

Gweddi

  • Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn gyfarwydd iawn ag ymateb i argyfwng. Byddwn yn dal i wneud hyn heddiw. 
  • Gweddïwch dros ein gwasanaethau argyfwng – y rheini sy’n mynd allan ar gerbyd cymorth y Rhanbarth. 
  • Gweddïwch dros y rheini sydd yn cynnig cymorth trwy ymweld â phobl ar ôl iddynt brofi trawma. 
  • Gweddïwch dros y systemau cymorth mewnol sydd gennym sy’n ein helpu i leihau anawsterau hir dymor ym mywydau'r rheini sy’n cael eu heffeithio gan yr hyn maent yn dyst iddo.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags