Diwrnod 69: Gweddïo dros Ddinbych y Pysgod ac ardal Sir Benfro (1942)
Awst 25ain
Diwrnod 69 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Paid gadael i’r rhai sy’n dy drystio di fod â chywilydd ohono i, Feistr, Arglwydd holl-bwerus. Paid gadael i’r rhai sy’n dy ddilyn di gael eu bychanu, O Dduw Israel.’ (Salm 69:6).
1942
Agorwyd Tŷ Lambert yng Nghaerdydd fel cartref i fenywod ifanc. Serch hynny, caeodd Corfflu Doc Penfro, a agorodd yn 1883, ar Fai 26ain 1942. (Agorodd a chaeodd ychydig o weithiau eto.)
Roedd William Booth yn awyddus i agor corffluoedd newydd ond doedd ef ddim yn gwrthwynebu eu cau nhw chwaith. Yn 1877 caeodd naw orsaf a oedd yn rhan o’r Genhadaeth Gristnogol. Roedd un o’r gorsafoedd hyn yn Bromley yn Ne Llundain. Degawd yn ddiweddarach, agorodd fel Corfflu Byddin yr Iachawdwriaeth sydd yn dal i ffynnu heddiw.
Mae aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth yn rhannu stori Duw ym Mhenfro a Doc Penfro.
Mae llun o Fand Doc Penfro, sydd wedi dyddio 1920, yn dangos 16 aelod mewn iwnifform gan gynnwys un fenyw. Nododd ei gŵr mewn llythyr: ‘Roedd hi’n byw ym Mhenfro ond roedd hi’n mynychu corfflu Doc Penfro er mwyn chwarae yn y band. Doedd dim band ym Mhenfro.
Gweddi
- Gweddïwch dros Gorfflu Dinbych y Pysgod wrth iddynt groesawu nifer o bobl i’r dre yn ystod cyfnod y gwyliau, yn enwedig ddiwedd mis Medi, pan fydden nhw’n cynnal digwyddiad Iron Man Cymru.
- Gweddïwch drostynt wrth iddynt wasanaethu’r gymuned drwy’r flwyddyn.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.