Diwrnod 68: Gweddïo dros y rheini sy’n gweld eu tai yn cael eu dinistrio gan ryfel a gwrthdaro (1941)

Awst 24ain

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 68 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Canwch i Dduw! Canwch gân o fawl iddo a chanmol yr un sy’n marchogaeth y cymylau! Yr Arglwydd ydy ei enw!  Dewch i ddathlu o’i flaen!’ (Salm 68:4).

1941

Am dridiau, - Chwefror 19eg, 20fed ac 21ain - cafodd Abertawe ei fomio gan yr Almaen. Bu farw 240 o bobl a chafodd y rhan fwyaf o’r ddinas ei dinistrio. 

Mae’r adroddiad hwn o lyfr hanes Corfflu Neuadd Stuart Caerdydd ar Ionawr 2il yn nodi sut ymateb oedd gan aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth i’r bomio yn eu dinas:

‘Heno mae Caerdydd wedi profi’r bomio gwaethaf ers dechrau’r rhyfel. Mae dau gant o ddynion, menywod a phlant wedi derbyn lloches dros dro yn y neuadd. Rhoddodd Adjutant a Mrs Gray cymorth i’r Uwch-gapten Morris a’r Uwch-gapten Mrs Giles.’ 

Gweddi

  • Gweddïwch dros y gwrthdaro sy’n digwydd ar draws y byd ble mae bywydau yn cael eu colli a chartrefi yn cael eu dinistrio.
  • Ymchwiliwch i’r llefydd sy’n profi rhyfel ar hyn o bryd a gweddïwch dros y bobl a’r llefydd hynny.
  • Gweddïwch dros y teuluoedd sydd wedi gorfod gadael Wcráin ac sy’n derbyn cymorth gan Fyddin yr Iachawdwriaeth.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags