Diwrnod 67: Diolch i Dduw am ateb i weddi (1940)

Awst 23ain

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 67 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘O Dduw, bendithia ni! Wedyn bydd pobl drwy’r byd i gyd yn dy addoli’ (Salm 67:7).

1940

Mewn llythyr wedi’i ddyddio Tachwedd 9fed 1940, ysgrifennodd Mr CJ Phipps o Abertawe i ‘La Maréchale’* yn sôn am achlysur pan gafodd weddi ei hateb: 

‘Wyt ti’n cofio’r noswaith honno yn y tŷ cyfarfod yn Torquay?...Mae’r noson honno’n un cofiadwy i mi. Ar y pryd roeddwn i’n filwr anffodus ofnadwy a ddaeth atat ti i sôn am drafferthion gyda’m merch. Roedd hi’n hynod o sâl gyda salwch a adawodd hi gyda pharlys am sbel. Heddiw, ar ran fy ngwraig, rwy’n agor fy nghalon sy’n llawn diolchgarwch am y gweddïo rwyt ti wedi ei gwneud dros ein babi Elaine sydd bellach yn ôl yn ein cartref. 

‘Ar hyn o bryd rwyf ar wyliau hamdden ac yn gwerthfawrogi’r amser hwn gyda fy ngwraig a’m merch cyn i mi fynd i’r môr ymhen ychydig ddiwrnodau. 

‘Mae fy ngwraig yn bryderus am ein dyfodol ond trwy dy weddi rwy’n gwybod y bydd hi’n gryf yn ei ffydd a hyder; a fyddet ti cystal â gweddïo dros fy arweiniad a’m dychwelyd yn nôl i fy nheulu yn ddiogel. 

‘Yn ffyddlon, C. J. Phipps.’

* ‘La Maréchale’ oedd Kate Booth, merch hynaf William a Catherine. Roedd hi’n arweinydd talentog a dangosodd gryfder arbennig wrth ddechrau gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth yn Ffrainc a’r Swistir. Gadawodd hi a’i gŵr, Byddin yr Iachawdwriaeth yn 1902 (rhywbeth roedd hi wedi difaru yn hwyrach) ond parhaodd i fod yn efengylydd, teitl a ddefnyddiodd yn ystod ei chyfnod yn Ffrainc. 

Gweddi

  • Wrth ichi ystyried eich bywyd gyda’r Arglwydd, gorfoleddwch a diolchwch am ateb i weddi. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags