Diwrnod 66: Gweddïo dros Drelái, Caerdydd (1939)
Awst 22ain
Diwrnod 66 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Mae Duw yn haeddu ei foli! Wnaeth e ddim diystyru fy ngweddi, na bod yn anffyddlon i mi’ (Salm 66:20).
1939
Ar Fedi 3ydd 1939 cyhoeddodd Neville Chamberlain: ‘Mae’r wlad hon yn mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen.’ Yn rhifyn Medi 9fed o War Cry, galwodd y Cadfridog ar holl aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth i ‘fod yn barod i wasanaethu.’ Gan gyfarch ‘fy annwyl Swyddogion a Milwyr’, ysgrifennodd:
‘Er gwaethaf ymdrechion hir, amyneddgar a dewr y prif weinidog, gyda chefnogaeth y llywodraeth Brydeinig, mae bygythiad rhyfel wedi lledaenu ar draws y byd.
‘Gyda chalon sy’n rasio gyda phryder a phoen rwy’n erfyn ar bob aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth i ymgorffori credoau Byddin yr Iachawdwriaeth i wasanaethu mewn unrhyw argyfwng, elfen bwysig o’n cenhadaeth ers i’r faner gyntaf un gael ei chodi.
‘Yn ffyddlon o dan y faner fel erioed, Evangeline Booth.’
Yn sgil yr Ail Ryfel Byd bu mudo enfawr. ‘Rhwng 1939 a 1945, cafodd bron i 4 miliwn o bobl eu symud o ddinasoedd Prydain. Daeth 200, 000 o’r rheini i wahanol rannau o Gymru’ (gwefan hwb.gov.Wales).
Trwy gydol y rhyfel, parhaodd Byddin yr Iachawdwriaeth i wasanaethu eu cymunedau. Er enghraifft ar Fedi 30ain, agorwyd neuadd newydd yn Nhrelái, Caerdydd. Mae llyfr hanes y corfflu yn nodi’r hanesion yn ystod y misoedd cyn yr agoriad:
23 Mai
‘Apwyntiwyd y Capten Cox a’r Is-gapten Thompson i agor Corfflu Byddin yr Iachawdwriaeth yn yr ystâd tai newydd yn Nhrelái.’
31 Mai
‘Gwasanaeth agoriadol wedi ei arwain gan y Cyrnol W Bailey (DC). Pabell heb gyrraedd felly cafwyd y gwasanaeth yn yr awyr agored.’
4 Mehefin
‘Cynhaliwyd y gwasanaethau ar y penwythnos mewn pabell. Cynorthwywyd swyddog y corfflu gan fand pres Treganna. Presenoldeb yn dda a brwdfrydedd ymysg pobl ifanc a phobl hŷn. Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn gyfnod arbennig o achub bywydau.
13 Awst
‘Mae’r babell wedi cael ei hanghofio ar ôl cael ei difrodi gan gangiau a thywydd gwael. Ar ôl ychydig o anhawster, llwyddon i gael defnyddio’r Neuadd Les ar bendraw’r ystâd er mwyn cynnal gwasanaethau ar ddyddiau Sul a’r cynghrair cartref. Roedd y babell, er gwaetha’r trafferthion, wedi rhoi inni wasanaeth da, a bydd yn cael ei chofio ymysg y rheini sydd wedi dod o hyd i’r Arglwydd yno.’
30 Medi
‘Agoriad y neuadd newydd. Haleliwia! Adeilad gwych i ddal 200 o bobl.’
Gweddi
- Gweddïwch dros Fyddin yr Iachawdwriaeth yn Ne Cymru. Mae’r gwaith ar draws yr ardal yn amrywio ond mae corffluoedd yn ymrwymedig i’w cymunedau. Mae’r gwaith o gynorthwyo'r digartref yn her o hyd.
- Gweddïwch eto dros y gwaith arbennig hwn ac y bydd yn dod â gobaith ac yn newid bywydau.
1930–1939
Dechreuodd stori’r 1930au gyda sôn am ddiwygiad arall – er efallai mai sefyllfa o ffydd yn hytrach na realiti oedd hi. Gorffennodd y degawd gyda’r cyhoeddiad “mae’r wlad hon yn mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen”. Trwy gydol y degawd roedd Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru yn datblygu i fod yn rhan hanfodol o straeon cymunedau lleol. Roedd y cymunedau hyn yn gyfarwydd â diweithdra, tlodi a’r ofn parhaol o drychinebau pwll glo.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.