Diwrnod 65: Gweddïo dros Dde Cymru (1938)
Awst 21ain
Diwrnod 65 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Ti’n gwneud pethau syfrdanol i wneud pethau’n iawn, a’n hateb o Dduw, ein hachubwr. Mae pobl drwy’r byd i gyd, ac ymhell dros y môr, yn dibynnu arnat ti’ (Salm 65:5).
1938
Anerchodd y Cadfridog Evangeline Cory Booth torf o bobl yn adeilad mwyaf Abertawe, sinema'r Plaza. Bu War Cry 12fed o Fawrth yn trafod y digwyddiad gyda’r pennawd, ‘Neuadd Lawn a Heulwen y Gwanwyn yn Croesawu’r Cadfridog i Gymru’:
‘Aeth y Cadfridog at y bobl yn syth gan ddweud wrthynt sut oedd ei henw yn adlewyrchu'r hyn y mae De Cymru wedi gwneud dros Fyddin yr Iachawdwriaeth. Rhannodd straeon am y brodyr Cory a’i hymweliadau i Gymru fel merch ifanc. Soniodd am ei chariad at gerddoriaeth a chaneuon a dangosodd ddealltwriaeth ystyrlon o'r problemau a oedd yn wynebu Cymru.’
Gweddi
- Gweddïwch dros Fyddin yr Iachawdwriaeth yn Ne Cymru. Mae’r gwaith ar draws yr ardal yn amrywio ond mae corffluoedd yn ymrwymedig i’w cymunedau. Mae’r gwaith o gynorthwyo'r digartref yn her o hyd.
- Gweddïwch eto dros y gwaith arbennig hwn ac y bydd yn dod â gobaith ac yn newid bywydau.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.