Diwrnod 64: Gweddïo dros y rheini sydd wedi cael eu magu ym Myddin yr Iachawdwriaeth (1937)
Awst 20fed
Diwrnod 64 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Bydd y rhai sy’n byw’n gywir yn gorfoleddu yn yr Arglwydd; ac yn dod o hyn i le saff ynddo fe. Bydd pawb sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dathlu’ (Salm 64:10).
1937
Cafodd Shirley Bassey ei geni yng Nghaerdydd ar Ionawr 8fed 1937. Ar ôl iddi berfformio yn yr Oscars yn 2013, rhoddodd Byddin yr Iachawdwriaeth yn Sacramento ychydig am ei chefndir ar ei gwefan gan dynnu sylw at ei chysylltiadau gyda Byddin yr Iachawdwriaeth:
‘Perfformiodd yr eicon cerddorol Cymreig, y Fonesig Shirley Bassey ei chân enwog “Goldfinger” yn yr Oscars neithiwr i ddathlu 50 o flynyddoedd ers y ffilm James Bond a sbardunodd ei gyrfa gerddorol ryngwladol. Roedd hi wedi gwisgo o’i phen i’w sawdl mewn aur disglair ac roedd ei pherfformiad yn ddiymdrech. Hi a gafodd cymeradwyaeth fwyaf y noson.
‘Er bod rhai o’i chaneuon mwyaf enwog yn sôn am aur a diemwntau, dechreuodd ei gyrfa gerddorol mewn cymuned porthladd dosbarth gweithiol yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru. Dyma le ddaeth o hyd i’w thalent a’i chariad tuag at gerddoriaeth wrth ganu yng nghôr ieuenctid Byddin yr Iachawdwriaeth fel aelod ifanc.
‘Dechreuodd ym Myddin yr Iachawdwriaeth, ac yna aeth ymlaen i ganu mewn tafarndai a chlybiau lleol cyn iddi gael ei chontract proffesiynol cyntaf yn 15 mlwydd oed. Mae Bassey yn un o nifer o gantorion talentog a ddaeth o hyd i’w chariad at gerddoriaeth diolch i waith ieuenctid Byddin yr Iachawdwriaeth.’
Gweddi
- Os gawsoch chi eich magu ym Myddin yr Iachawdwriaeth, myfyriwch ar eich cyfnod fel person ifanc. Efallai bod yna gân o’r dyddiau hynny sy’n dal i’ch annog chi. Canwch hi nawr.
- Wrth i chi wneud hynny, gweddïwch dros yr holl bobl ifanc sy’n cael eu magu gyda phresenoldeb Byddin yr Iachawdwriaeth yn eu bywydau. Gweddïwch y bydd Duw yn eu tanio ac y byddent yn ei wasanaethu trwy gydol eu bywydau.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.