Diwrnod 63: Gweddïo dros ddylanwad parhaus Together 2024 yng Ngorffennaf (1936)

Awst 19eg

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 63 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘O Dduw, ti ydy fy Nuw i! Dw i wir yn dy geisio di. Mae fy enaid yn sychedu amdanat. Mae fy nghorff yn dyheu amdanat, fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr’ (Salm 63:1). 

1936

Roedd stori yn War Cry ar Ionawr 18fed gyda'r pennawd ‘Aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth Cymru yn Dod Ynghyd’. Roedd y stori yn trafod ‘Diwrnod Cymreig’ yn Llundain: 

‘Roedd digon o hwyl a mwynhad i’w cael yn y Diwrnod Cymreig a gafodd ei gynnal gan y Cyrnol a Mrs T Lewis yn Nwyrain Finchley Ddydd Sul. Roedd mwy na phedwar deg o Gymru a oedd yn aelodau yng nghorffluoedd Llundain wedi dod at ei gilydd i greu grŵp o Gantorion Cymraeg a band pres bach dan arweiniad Arweinydd y Band Waite, a oedd yn dod yn wreiddiol o Drealaw. 

‘Ceisiodd pedwar enaid iachawdwriaeth yn ystod y diwrnod. Cafodd y Cyrnol gefnogaeth y Brigadydd Effer a’r Uwch-gapten Emily Taylor. 

Roedd sôn am ddigwyddiad Cymreig pwysig arall yn yr adroddiad: 

‘Mae’r pumed Ŵyl Gymreig Flynyddol yn mynd i gael ei chynnal yn Neuadd Cyngres Clapton Ddydd Sadwrn, Chwefror 29ain. Bydd agweddau newydd gan gynnwys Band o Lundain yn cael ei arwain gan yr Uwch-gapten Jakeway sy’n enedigol o Aberdâr. Bydd hefyd grŵp o gantorion Cymraeg o Lundain, yn cael ei arwain gan y Dirprwy Arweinydd Waite o Wembley, ond yn enedigol o Drealaw.’ 

Gweddi

  • Diolchwch i Dduw am Together 2024 yng Nghasnewydd. Efallai ei fod yn teimlo fel atgof pell ond cafodd pobl eu hysbrydoli, eu hachub a’u tanio i barhau gyda’n cenhadaeth wych yma yng Nghymru.
  • Gweddïwch dros yr is-gapteniaid newydd a gafodd eu comisiynu yng Nghymru sydd bellach yn dechrau eu cenhadaeth yn eu hapwyntiadau newydd.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags