Diwrnod 62: Gweddïo dros Tŷ Gobaith, Caerdydd (1935)

Awst 18fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 62 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Ydw, dw i’n disgwyl yn dawel am Dduw; fe ydy’r un all fy achub i’ (Salm 62:1). 

1935

Yn y flwyddyn hon, agorwyd hostel i ddynion ar Stryd Biwt, Caerdydd. Roedd adroddiad yn War Cry ar Fawrth 9fed am y datblygiad sylweddol hwn.

‘Roedd gorfoleddu mawr ar Stryd Biwt yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn. Roedden nhw’n dathlu agoriad yr hostel diweddaraf i ddynion, y cyntaf o'r fath yng Nghymru. Agorwyd gan Waith Cymdeithasol Dynion, Byddin yr Iachawdwriaeth.

‘Roedd sôn mai Sir William Reardon Smith oedd am lywyddu’r agoriad, ond yn ei absenoldeb, Mr Popham cadeiriodd y digwyddiad a Mrs Richard Read ddatganodd bod yr hostel ar agor...Ar ôl yr agoriad, gwahoddwyd pawb a oedd yn bresennol i gael edrych o amgylch y gegin fodern a’r ystafell ymolchi. 

‘Dyma’r trigeinfed hostel i agor a hynny gyda chyfleusterau modern ar gyfer dynion...Nid yn rhy hir ar ôl yr agoriad, daeth ugain o ddynion i geisio lloches yna.’ 

Deugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd y ganolfan ei hailadeiladu. Nododd y rhaglen ar gyfer yr agoriad swyddogol ar Ionawr 23ain 1976:    

‘Mae Stryd Biwt (Caerdydd) yn stryd 19eg ganrif ffasiynol a gysylltodd yr hen dref ganoloesol sy’n cael ei dominyddu gan y castell mawr ac ar ben arall y stryd mae’r porthladd a diwedd camlas Sir Morgannwg. Parhaodd y stryd am filltir i’r de tuag at dociau’r Arglwydd Biwt... 

‘Doedd yr ardal ddim mor ffasiynol yn 1935 pan ddaeth hen swyddfeydd y felin blawd i feddiant Byddin yr Iachawdwriaeth er mwyn sefydlu hostel i ddynion...Mae technoleg wedi cael effaith ar y gymdeithas ond mae problemau’r ddynoliaeth dal i fodoli. Mae hen swyddfeydd y felin blawd wedi galluogi i Fyddin yr Iachawdwriaeth gynnig lloches i ddynion sy’n wynebu argyfyngau.

Cafodd Hostel Stryd Biwt ei hadnewyddu a’i hailagor yn 2003 gydag enw newydd: Tŷ Gobaith.  

Gweddi

  • Gweddïwch dros staff a phreswylwyr Tŷ Gobaith. Gweddïwch eiriau o obaith dros y rheini sy’n ceisio lloches a chefnogaeth mewn tai annedd. Yr enw wrth gwrs yn cyfeirio at obaith a dechreuadau newydd. 
  • Gweddïwch dros y rheini sy’n mynd i Dŷ Gobaith, er gwaethaf y rheswm pam, ac y bydden nhw’n darganfod Iesu yn eu bywydau. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags