Diwrnod 61: Gweddïo dros y rheini sydd wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau trawmatig (1934)
Awst 17eg
Diwrnod 61 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Gad i mi aros yn dy babell am byth, yn saff dan gysgod dy adenydd’ (Salm 61:4).
1934
Ar ddydd Sadwrn Medi 22ain 1934, bu farw 266 o bobl mewn trychineb pwll glo yng Ngresffordd. Roedd rhifyn Medi 29ain o War Cry yn cynnwys cofnod o ymateb Byddin yr Iachawdwriaeth.
‘Aeth yr Uwch-gapten Herbert Climpson, Adjutant Evans a Chapten Lomas o Gorfflu Rhos i ben y pwll glo o fewn awr o glywed y newyddion. Yma, gwelon nhw’r Uwch-gapten Trevessor Rees (Corfflu Wrecsam). Fe oedd y cynrychiolydd crefyddol cyntaf yno yn cefnogi swyddogion y pwll glo...
‘Heblaw am y rheini oedd yn rhan o’r timau achub, doedd dim llawer y gall aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth eu gwneud heblaw am sgwrsio gyda’r dorf a chynnig cydymdeimlad a chymorth ble y gallent...
‘Roedd rhai o’r menywod wedi bod wrth y pwll ers pedwar yn y bore, gan obeithio bod y paned o de a gynigir ganddynt yn ddigonol. Roedd nifer wedi diolch am y lluniaeth.
‘Roedd arweinydd y band yn Wrecsam wedi bod yn y pwll glo gyda thîm achub ers oriau man y bore, ond llwyddodd Uwch-gapten Climpson i afael yn ei law ar ddiwedd ei shifft...
‘Roedd swyddogion y pwll glo yn ddiolchgar am y cymorth ac wedi darparu rhestr o enwau a chyfeiriadau'r dynion a oedd wedi eu claddu i Uwchgapten corfflu Wrecsam...
‘Ar brynhawn Sul aeth band pres corfflu Wrecsam i ben y pwll er mwyn chwarae emynau i’r dorf…
‘Roedd nifer o deuluoedd a gafodd eu heffeithio gan y trychineb yn byw yn Rhos. Treuliodd nifer o swyddogion bore dydd Sul gyda nhw...
‘Yng Nghefn Mawr aeth y Dirprwy Rheolwr Rhanbarthol a Mrs Climpson i ymweld â thri theulu a effeithiwyd gan y trychineb...
‘Parhaodd yr ymweliadau gyda’r rheini a oedd yn wynebu profedigaeth. Mae’r swyddogion yn Wrecsam, Coedpoeth, Rhos a Brymbo yn dal i glywed straeon torcalonnus. Roedd un gŵr ifanc ond wedi gweithio yn y pwll am dair noson ar ôl fod heb swydd am ddeunaw mis. Roedd teulu arall wedi colli tad a dau o feibion...
‘Ar hyn o bryd, maen nhw’n credu bod un aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth wedi marw, y brawd Colin Maggs, milwr 17 mlwydd oed o gorfflu Coedpoeth. Mae nifer o deuluoedd sy’n perthyn i Fyddin yr Iachawdwriaeth wedi colli ffrindiau a theulu. Nid yw’n anghywir i’w ddweud bod Byddin yr Iachawdwriaeth yn dlotach o ganlyniad i drychineb pwll glo Gresffordd.’
Gweddi
- Does dim ffordd o wybod pryd y bydd marwolaeth trwy ddamwain neu achosion naturiol yn digwydd, ond gallwn fod yn barod i gefnogi teulu’r corfflu pan fydd y pethau hyn yn digwydd. Gallwn hefyd fod yn barod i ymateb i drychinebau lleol megis llifogydd, tirlithriadau, neu drawma diwydiannol. Gweddïwch dros y rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigwyddiadau trawmatig yn eu bywydau.
- Gweddïwch dros y rheini sydd â chyfrifoldeb dros roi cymorth i’r rheini mewn profedigaeth.
- Gweddïwch dros y rheini sy’n rhan o dimoedd achub ac adferiad y digwyddiadau trawmatig hyn.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.