Diwrnod 60: Gweddïo dros fendith gwaith (1933)
Awst 16eg
Diwrnod 60 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Mae Duw wedi addo yn ei gysegr: “Dw i’n mynd i fwynhau rhannu Sichem, a mesur dyffryn Swccoth”’ (Salm 60:6).
1933
Roedd erthygl y Deliverer am Gartref y Coed (Ebrill 1933) yn sôn am ‘hors ddillad - syniad da i gadw bechgyn ifanc Cymru yn brysur...a’u cael yn gyfarwydd â gwaith cyson, rhywbeth na fydden nhw’n eu cael mewn cymoedd o byllau anghofiedig.’
Cyhoeddodd War Cry Medi 3ydd, ‘Mae’r un bechgyn o Gartref y Coed nawr yn dod i Lundain...Bydden nhw yn Leytonstone ar Ddydd Sadwrn y 10fed ac yn Neuadd Cyngres Clapton...ar Ddydd Sul y 11eg...Maen nhw’n gallu canu caneuon o fynyddoedd Cymru. Maen nhw’n gallu siarad drostyn nhw eu hunain. Maen nhw’n gallu gweddïo. Byddwch yn nhorfeydd eu cyfarfodydd.’
Yn gynharach y flwyddyn honno, bu War Cry Ionawr 3ydd yn adrodd ar drychineb pwll glo Tonypandy:
‘Aeth torfeydd o ddynion a menywod i ben y pwll ac yna arhoson nhw am newyddion. Cynhaliodd swyddogion Byddin yr Iachawdwriaeth wylnos gyda nhw...Mae digon o aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth yn Nhonypandy sy’n gallu delio ag argyfwng. Mae Adjutant Ridge a Chapten Johnson o gorfflu Trealaw yno yn gwasanaethu Tonypandy - gyda chefnogaeth tri swyddog ymroddedig sydd â diddordeb mewn cynorthwyo’n ysbrydol gyda'r anghenus...Mae’r Capten Allister Smith wedi bod yn cynorthwyo nifer o ddynion di-waith Cwm Rhondda.’
Yn yr erthyglau, ceir pwyslais ar y diweithdra a oedd yn ne Cymru ac effaith hynny ar y dynion ifanc yn enwedig. Roedd Capten Allister Smith yn swyddog o Dde Affrica a oedd yn ymwneud â Chartref y Coed. Roedd yn bregethwr sancteiddrwydd poblogaidd - siaradodd yng Nghynadleddau Keswick ac roedd ganddo angerdd mawr dros ddiwygiad. Roedd yn sicr yn ymwybodol o hanes Cymru a hanes y diwygiad.
Gweddi
- Ddoe gweddïoch dros bobl sy’n ddi-waith.
- Heddiw rydym yn gweddïo dros bobl ifanc sy’n gweithio ac rydym yn diolch i Dduw eu bod nhw’n dysgu sgiliau newydd mewn bywyd.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.