Diwrnod 6: Bendith Pentre (1879)
23ain o Fehefin
Diwrnod 6 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Mae wedi fy nghlywed i’n pleidio am help. Bydd yr Arglwydd yn ateb fy ngweddi’ (Salm 6:9).
1879
‘Ein Cyngor Rhyfel Cymreig
‘Sacson a Chymro law yn llaw a chalon wrth galon, yn trefnu i gwrdd er mwyn cael gwared â’r diafol o’r wlad a datgan Iesu yn Arglwydd!’
(The Christian Mission Magazine)
Dilynwyd gan adroddiad am ddigwyddiad a gynhaliwyd yng NGHAERDYDD ar y dydd Sadwrn ac ym Merthyr ar y dydd Sul. Mae’r awdur yn gorffen yr adroddiad trwy sôn am gyfarfod olaf y Cyngor:
‘Ni ellir adrodd effeithiau’r cyfarfod hwnnw trwy’r lliaws o dystiolaethau a gafodd eu rhannu yn ystod y munudau olaf. Rydym wedi bod yn clywed tystiolaethau ers hynny. Dw i’n siŵr y byddem yn clywed y tystiolaethau hyn nes cyfarfod nesaf y Cyngor Cymreig, pan fentrwn ddweud y dônt i orsafoedd newydd, gyda swyddogion newydd a phobl newydd yn cael ei recriwtio. Duw yn unig a ŵyr.’
Roedd y frawddeg olaf llawn ffydd honno bron â bod yn broffwydol fel y gwelir isod:
‘Cwm Rhondda
‘Efallai dyma’r deffroad mwyaf nodedig i’r genhadaeth ei gweld hyd yn hyn. Roedd y canlynol wedi’i nodi yn y Western Mail ar y 4ydd o Fawrth ac yn dechrau ar gyfres o adroddiadau a gofnodwyd yn y papur:
‘DEFFROAD CREFYDDOL YNG NGHWM RHONDDA.
ARDDANGOSFEYDD RHYFEDDOL.
BYDDIN YR IACHAWDWRIAETH AR WAITH.
‘Trwy weithgarwch diwyd merch ifanc o Loegr, o’r enw Miss Kate Shepherd, sydd rhwng 17 a 18 mlwydd oed, mae dynion a menywod yn y pyllau glo, ar y mynyddoedd, ar yr heolydd, mewn bythynnod, ac yng ngherbydau’r trenau, yn siarad am y gwyrthiau a’r digwyddiadau anhygoel maent wedi eu gweld. Mewn un enghraifft ceir tawelwch ac anghyfanedd-dra - mae’r tafarndai yn wag, a phawb wedi anghofio am yfed - heblaw am yfed dŵr y bywyd.’
(The Christian Mission Magazine)
Mae’r detholiadau canlynol yn dod o’r South Wales Daily News ar Fedi 18fed a 19eg yn trafod carchariad Capten Louisa Lock a thri aelod o’i chorfflu:
‘Cafodd dirwyon eu gorfodi gan Ynad Pontypridd, ddydd Llun diwethaf ar aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth ar ôl iddynt rwystro’r dramwyfa ym Mhentre, ar Awst 24ain. Ni chafodd y ddirwy ei thalu gan bump ohonynt ac roedd yr ifancach yn eu mysg, Miss Lock, ond wedi talu’r gorchymyn ynadol. Cafwyd eu carcharu yn gynnar ar fore dydd Sadwrn gan dri heddwas.
‘Y rheini a gafodd eu cymryd i’r ddalfa oedd Miss Louisa Lock, Roger Cadwgan, John Day, James Edwards, a George Bowen. Miss Lock yw’r hyn a elwir yn “gapten” ar “Fyddin yr Iachawdwriaeth” ym Mhentre. Cafodd y dynion eu harestio cyn iddynt fynd i’r gwaith a chael eu cloi yn y ddalfa. Roedd cyhoeddwr gydag un fraich ac un goes yn unig, a oedd hefyd yn aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth wedi mynd mas yn syth i gyhoeddi bod aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth wedi cael eu cymryd i’r ddalfa gan ofyn i bawb oedd yn gallu i fynd gyda nhw am 10:00 o’r gloch i’r orsaf drên ar eu taith i Bontypridd, ac yna i Garchar Caerdydd.
‘Daeth rhwng 4000 a 5000 o bobl i gwrdd o bob cornel o’r Cwm. Roedden nhw’n canu “Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn gorymdeithio ymlaen” ac “Atgyfododd ef o’r meirw” yn ogystal â chanu alawon nodweddiadol eraill.’
(The Christian Mission Magazine)
Gweddi
- Gweddïwch heddiw dros Gorfflu Pentre.
- Gweddïwch dros y corfflu a’i gymuned wrth iddynt archwilio ei ddyfodol ym Mhentre.
- Diolchwch am yr holl bobl maent yn cysylltu â nhw ac am waith Duw yn eu bywydau.
1874–1879
Mae stori’r 1870au yn stori o gefnogwyr cyfoethog, efengylwyr dewr a diwygiad yng Nghwm Rhondda a arweiniodd at sefydlu nifer o gorffluoedd mewn ardaloedd difreintiedig.
Diolchwch i Dduw ein bod ni o hyd yn gwasanaethu yng Nghwm Rhondda.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.