Diwrnod 59: Gweddïo dros bobl ifanc sy’n ddi-waith (1932)
Awst 15fed
Diwrnod 59 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Ti ydy fy nerth i, a dw i am ganu mawl i ti! O Dduw, rwyt fel craig ddiogel i mi – y Duw ffyddlon.’ (Salm 59:17).
1932
Ysgrifennodd Hugh Redwood am Gartref y Coed yn The New Chronicle (Mehefin 10fed 1938):
‘Ychydig dros chwe blynedd yn ôl, aeth grŵp bach o aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth, a oedd yn poeni am ddiweithdra ymysg yr ifanc yn y Rhondda, i weddïo dros ddarn o dir a bydden nhw’n gallu cael criw o fechgyn i weithio arno. Doedden nhw ddim wedi llwyddo i gael y tir roedden nhw’n gobeithio ei gael, ond o fewn ychydig o ddiwrnodau cawson nhw feddiant ar 42 erw o dir cyfagos. Yn ogystal â’r tir, roedden nhw hefyd wedi cael meddiant tŷ ac adeiladau fferm.
‘Dyma ddechreuad Cartref y Coed, a agorodd yn 1932, a chafodd ei gyfeirio ato fel gwyrth. Erbyn heddiw, cefais i’r fraint o agor yr estyniad diweddaraf ac roeddwn i’n gallu gweld dros fy hunan y gwyrthiau sydd wedi bod ar waith yma ar hyd y blynyddoedd.
‘Hyd yn hyn, mae Cartref y Coed wedi derbyn ieuenctid o dde Cymru yn unig. Nawr bod yr estyniad wedi agor...bydd yn bosib cynorthwyo pobl o ardaloedd trallodus eraill. [Yn trafod y fferm] Roedd dwy hwch o linach dda yn anrheg gan Mr Lloyd George, a bellach wedi cael eu hychwanegu i’r stoc magu.
‘Er ein bod ni’n hapus bod y cynllun yma i leihau diweithdra wedi gweithio, rydym yn hapusach fyth bod bywydau wedi cael eu newid yma.’
Gweddi
- Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn dal i gefnogi pobl ifanc di-waith. Gweddïwch y bydden nhw’n gweld y daw eto haul ar fryn mewn cyfnodau anodd iawn.
- Gweddïwch bydden nhw’n gwybod, fel y Salmydd, mai ‘ti Duw, ydy fy nerth’.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.