Diwrnod 58: Gweddïo dros Faesteg (1931)
Awst 14eg
Diwrnod 58 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘A bydd pobl yn dweud, “Felly mae’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn yn cael gwobr! Mae yna Dduw sydd yn barnu ar y ddaear!” (Salm 58:11).
1931
Gofynnodd bennawd War Cry Mawrth 7fed y cwestiwn: ‘Ar Drothwy Diwygiad Grymus Arall?’ Ceisiodd y Gohebydd Evans o Abertawe 1 i ateb y cwestiwn yn yr erthygl hon.
‘Roedd yn fraint, 27 o flynyddoedd yn ôl i deithio gyda’r Comisiynydd Railton i gorffluoedd Byddin yr Iachawdwriaeth ym meysydd glo Cymru yn ystod cyfnod y Diwygiad. Ar ôl gweld y golygfeydd anhygoel a welais neithiwr, dw i’n pendroni os ydym ar drothwy diwygiad grymus arall heno a fydd yn dinistrio’r difaterwch sy’n gafael ym mywyd crefyddol Cymru ar hyn o bryd.
‘Wrth fynd i mewn i neuadd Fyddin yr Iachawdwriaeth ym Mhontycymer...roedd yna gyfarfod rhoi tystiolaeth. Roedd yr adeilad yn llawn...Ar y platfform roedd torf o ddynion bywiog, hapus a gwybodus - roedden nhw i gyd yn lowyr - unigolion wedi cael eu trawsnewid ac yn dod o Gorfflu Blaengarw...milltir i ffwrdd ble roedd deffroad hefyd yn digwydd.
‘“Bydd y Brawd Ned Davies yn siarad!’ galwodd y capten. Cerddodd dyn ifanc i’r platfform. Dechreuodd ddweud; “Cyn i mi gael fy achub ychydig o wythnosau yn ôl, roeddwn i’n wastraffwr!” “Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd hapusrwydd, roeddwn i’n gofalu am ddim byd a neb. Ond nawr rwy’n diolch i Dduw fy mod i wedi cael f’achub. Roedd fy mhlentyn yn marw a gweddïais, ‘O Dduw! Achub fy mhlentyn!’ Ac fe achubodd y bachgen.”
‘“Bydd y Brawd Lodwick yn siarad!” O’r neuadd orlawn daeth glöwr Cymraeg i’r platfform. Roedd wedi cael tröedigaeth ac yn dod o gorfflu Blaengarw, a oedd yn cael ei adnabod fel poen yr ardal; mwynhaodd y rhyddid roedd peidio yfed yn ei roi iddo. Wrth iddo sôn am ei hapusrwydd ers ei dröedigaeth ychydig wythnosau yn ôl, roedd y neuadd yn canu haleliwias.
‘Pa mor bell bydd y deffroad hwn yn ei ledaenu? Mae tystiolaeth ei fod wedi cyrraedd ardaloedd eraill. Mae Maesteg, dros y mynydd o gorffluoedd Pontycymer a Garw, yn teimlo’r golau.
‘Mae’n bosib bod y pryderon a’r caledi y mae’r Cymry wedi eu hwynebu yn y gorffennol wedi’u paratoi am y tân oedd wedi cynnau yng Ngwm Garw.
‘Mae’n bosib trwy weddïau a ffyddlondeb y swyddogion benywaidd bregus a oedd yn fodlon ddioddef y caledi’r bobl maen nhw’n eu caru ac yn gweithio drostynt, gall Dduw dod a deffroad sy’n achub eneidiau. Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn dod yn realiti!’
Gweddi
- Mae gweddïo trwy gerdded wedi dod yn ffordd boblogaidd a mynegiannol i weddïo dros ein cymunedau. Gweddïwch dros aelodau corfflu Maesteg sy’n gwneud y gweithgaredd hwn yn aml.
- Gweddïwch dros y clwb 3T (Tea, toast and talk), ac y bydd hi'n le o ddiogelwch o fewn y gymuned.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.