Diwrnod 57: Gweddïo dros Dreforys (1930)
Awst 13eg
Diwrnod 57 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Dangos dy hun yn uwch na’r nefoedd, O Dduw, i dy ysblander gael ei weld drwy’r byd i gyd!’ (Salm 57:11).
1930
Cafodd ddarllenwyr War Cry Awst 9fed fewnwelediad i ‘dlodi De Cymru’ mewn erthygl gyda’r teitl ‘Dim Fest, Crys na Gwasgod’.
‘[Yn siarad am ddrymiwr y corfflu] “Sylwoch chi,” meddai’r capten yn feddylgar, “doedd ganddo ddim fest, crys na gwasgod. Cafodd ei fab swydd wythnos diwethaf, rhoddais iddo fy nhrowsus fy hun, neu byddai ef ddim wedi gallu dechrau.”
‘Beth am inni fynd dros y mynydd i gwm arall? Roedden nhw arfer cael band da iawn yn y corfflu hwn. Dim ond ambell hen ddyn a bechgyn ifanc sydd ar ôl nawr. Mae’r gweddill wedi gadael am y gwladfeydd neu wedi mynd i adeiladu ffyrdd mewn rhannau eraill o’r wlad.
‘Mae’r dyn yna sy’n siarad yn y cylch awyr agored wedi bod heb waith am dair blynedd bellach a does dim gobaith y bydd e’n cael ei gyflogi nawr. Pwy fyddai cyflogi dyn 60 mlwydd oed ta beth?
‘Nawr awn i Dreforys, un o faestrefi Abertawe...Mae arweinydd y band wedi’i gyflogi yn y gweithiau nicel...fel y mwyafrif o ddynion sydd wedi’u cyflogi mae’n gweithio am “un wythnos ac wedyn pythefnos bant”. Mae’r gwaith am yn ail hwn yn achosi problemau i wragedd a phlant. Mae angen esgidiau a dillad ar y plant. Mae’r tad yn gweithio eto; ac felly bydden nhw’n cael y pethau hyn. Mae’r groser, teiliwr a’r pobydd yn cadw cyfrifon dyled...Ond pan fydden nhw’n cael eu harian ar ddiwedd yr wythnos bydd nodyn yn dweud na fydd unrhyw waith i’w wneud am bythefnos arall. Mae’r plant yn sychu’u llygaid ac yn mynd nôl allan i chwarae; mae’r gweithwyr yn anadlu’n ddwfn ac yn parhau i fod yn hael.
Mae’r erthygl wedyn yn adrodd hanes cyfarfod gorfoleddus gyda’r plant ar y platfform yn gwisgo’u dillad tlawd.
‘Edrychwch ar y plant yn canu! Wynebau balch y mamau; edrychiad hapus yn llygaid y tadau. Mae diweithdra a thlodi, cypyrddau â bron dim ynddynt a bocsys dillad gwag yn cael eu hanghofio. Yma mae hiwmor da a hyd yn oed chwerthin – mae’r hwyliau isel yn dechrau codi. Rydych chi’n ddewr, chi Gymry.’
Gweddi
- Mae Corfflu Treforys yn gwneud gwaith estyn allan yn wythnosol er mwyn cynorthwyo pobl sy’n wynebu diweithdra ac sy’n cael trafferthion gyda’u cyllid. Gweddïwch dros wirfoddolwyr a derbynwyr y banc bwyd.
- Gweddïwch hefyd dros staff a gwirfoddolwyr Employment Plus a bydd y rheini sy’n cael eu cynorthwyo gan y gwasanaeth yn dod o hyd i waith yn y dyfodol agos.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.