Diwrnod 56: Gweddïo dros ariannu gweinidogaeth Gristnogol (1929)
Awst 12fed
Diwrnod 56 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Ti wedi achub fy mywyd i, a chadw fy nhraed rhag llithro. Dw i’n gallu byw i ti, O Dduw, a mwynhau goleuni bywyd.’ (Salm 56:13).
1929
Ar Chwefror 13eg 1929, cafodd Edward Higgins ei ethol fel Cadfridog Byddin yr Iachawdwriaeth gan olynu Bramwell Booth. Dyma'r tro cyntaf i Gadfridog gael ei ethol gan yr Uwch Gyngor. Dyma oedd un o argyfyngau mwyaf y mudiad. Ysgrifennodd Cadfridog John Larsson adroddiad gwych o’r digwyddiad yn ei lyfr, 1929: A Crisis that Shaped the Salvation Army's Future.
Roedd sawl swyddog o Loegr ac o’r Alban ar yr Uwch Gyngor cyntaf, ond does dim tystiolaeth o swyddogion o Gymru yna. Serch hynny, roedd Cymru wrth wraidd y digwyddiad. Roedd Bramwell Booth yn cael ei gefnogi’n abl iawn gan ei wraig Florence, a oedd yn Gymraes. Roedd Edward Higgins, Pennaeth Cynorthwyol y Staff, hynny yw prif gynorthwywr Bramwell - mewn sefyllfa anodd iawn, ond roedd ef hefyd yn cael ei gefnogi yn abl iawn gan ei wraig o Gymru, Catherine.
O ganlyniad i ddiswyddiad Bramwell Booth, gostyngodd y gefnogaeth i Fyddin yr Iachawdwriaeth yn ogystal â gostyngiad yn y gefnogaeth ariannol.
Adroddodd The Deliverer: ‘Mae sefyllfa ariannol Cymru ar y cyfan yn arwain at broblemau i’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y ddinas [Caerdydd]. O ganlyniad i hyn, mae mwy o alw arnom i gynorthwyo’r rheini mewn sefyllfaoedd anodd iawn.'
Gweddi
- Mae adnoddau ariannol yn angenrheidiol i bob elfen o’n gwaith yma yng Nghymru. Gweddïwch dros y milwyr, ymlynwyr a ffrindiau sy’n parhau i gyfrannu’n ariannol i’w corffluoedd.
- Ystyriwch eich rhoddion personol a gweddïwch y bydd Duw yn eich arwain yn y mater hwn.
- Gweddïwch dros aelodau’r cyhoedd ac y bydden nhw’n parhau i gefnogi gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth.
1920–1929
Tlodi yw prif stori’r 1920au. Dechreuodd y dirwasgiad mawr yn 1929, ond roedd Cymru’n dioddef hyn yn oed cyn i hynny ddechrau. Roedd canolfannau Gwasanaethau Cymdeithasol y Fyddin wedi ceisio helpu cwrdd ag anghenion y gymdeithas ond roedd rhannau o Gymru nad oeddent yn agos at gorffluoedd Byddin yr Iachawdwriaeth. Ceision nhw wneud beth bynnag roedden nhw’n gallu i helpu gan gynnwys cynnal cyfarfodydd gorfoleddus mewn neuaddau twym.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.