Diwrnod 55: Gweddïo dros wasanaethau dibyniaeth (1928)
Awst 11eg
Diwrnod 55 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Ond dw i’n mynd i alw ar Dduw, a bydd yr Arglwydd yn fy achub i. Dw i’n dal ati i gwyno a phleidio, fore, nos a chanol dydd. Dw i’n gwybod y bydd e’n gwrando!’ (Salm 55:16 a 17).
1928
Ar Fawrth 3ydd Adroddodd War Cry y stori ‘Datblygiad Gwrth-Yfed Cymraeg’:
‘Mewn cysylltiad â dechreuad y Cyngor Dirwest yr Eglwysi Cristnogol, cynhaliwyd cyfarfod mewn capel yn Stryd Wood yng Nghaerdydd. Roedd Archesgob Cymru yn llywyddu ac Esgob Llandaf yn ei gefnogi ac roedd nifer o weithwyr crefyddol nodedig eraill yno hefyd. Roedd Mrs [Florence] Booth wedi cael croeso cynnes pan gododd i drafod y buddion mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi’u gweld o ganlyniad i lwyr ymwrthod diodydd alcoholig.’
Roedd sôn am storfa werthiant Caerdydd yn rhifyn mis Medi TheDeliverer:
‘Agorodd ein storfa gwerthiant yng Nghaerdydd ym mis Hydref 1926. Dechreuon ni drwy rentu hanner siop ddwbl. Roedd yn fenter newydd i ni ar y diwrnod cyntaf hwnnw, ond er nad oedd gennym ni lawer, roedd yn sicr gennym ddigonedd o bobl chwilfrydig yn edrych drwy ffenestr y siop!
‘Fy chwaer i sy’n gyfrifol am y siop, hi yw gwarcheidwad cadét un o gorffluoedd Caerdydd...Efallai mai’r darnau mwyaf poblogaidd o ddillad rydym ni’n eu gwerthu yw oferôls i fenywod, casys gobennydd a dillad i blant. Rydym hefyd yn gwerthu doliau, hancesi, gwaith procer (sy’n cael eu gwneud yn ein gweithdy) a phob mathau o ddillad eraill, gan gynnwys rhai i fabanod bach.’
Gweddi
- Gweddïwch dros y gwasanaethau dibyniaeth wrth iddynt gefnogi’r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan ddibyniaeth.
- Gweddïwch dros y rheini sydd mewn adferiad, y bydden nhw’n cael eu cryfhau gan ras Duw a chefnogaeth pobl eraill.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.