Diwrnod 54: Gweddïo dros Gwm (1927)

Awst 10fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 54 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘O Dduw, gwrando ar fy ngweddi! Clyw beth dw i’n ddweud.’ (Salm 54:2). 

1927

Ar Fawrth 1af, Dydd Gŵyl Dewi, cafodd 52 o ddynion eu lladd mewn ffrwydrad ym mhwll glo Cwm Marine. 

Yn rhifyn Mawrth 12fed War Cry roedd adroddiad yn nodi: ‘Aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth yn rhoi cymorth i’r rheini mewn profedigaeth gan weini i’r achubwyr ar ben y pwll. Enillon nhw ganmoliaeth uchel gan nifer.   

‘Roedd yn hollol dawel a safodd swyddogion Byddin yr Iachawdwriaeth gyda’r dorf a oedd yn tyfu wrth fynediad y pwll. Doedden nhw ddim yna’n rhy hir cyn sibrwd wrth ei gilydd: “Mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth.”  

‘Darparwyd miloedd o brydau i ddoctoriaid, nyrsys, swyddogion y pwll a’r gweithwyr achub...”Gadewch i mi ddweud” meddai Mr Harrison, brif glerc y pwll glo, “bod eich swyddogion gwych wedi darparu gwasanaeth amhrisiadwy. Mae’u hunanymwadiad a’u heffeithlonrwydd, eu hymroddiad a’u llafur diymhongar yn haeddu clod mawr.”   

‘Serch hynny, roedd darparu bwyd ond yn elfen fach o’r gwaith gwnaeth y swyddogion. Roedd y gwaith anodd o ymweld â’r rheini oedd wedi wynebu profedigaeth yn cael ei wneud yn ffyddlon o dan ofal Mrs Uwch-gapten Edwards. Trwy fynd i dai’r galarwyr rhoddwyd cysur sy’n fwy na geiriau.’ 

Gweddi

  • Mae’r corfflu yn y Cwm yn parhau i wasanaethu’r gymuned. Gweddïwch dros ei chynghrair gartref sy’n gweld aelodau newydd yn dod i’r gymdeithas.  
  • Gweddïwch dros waith a thystiolaeth y corfflu a’r gwaith estyn allan i’r gymuned.  

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags