Diwrnod 53: Gweddïo dros y rheini sy’n dechrau bywyd newydd (1926)

Awst 9fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 53 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Dim ond ffŵl sy’n meddwl wrtho’i hun, “Dydy Duw ddim yn bodoli.” Mae pobl yn gwneud pob math o beth ffiaidd. Does neb yn gwneud daioni!’ (Salm 53:1). 

1926

Yn War Cry Hydref 23ain roedd stori gyda’r teitl: ‘Gweddw Gymraeg a’i thri phlentyn yn dod o hyd i iachawdwriaeth ddwbl yn Awstralia’: 

‘Roedd hi’n weddw o Gymru a gollodd ei gŵr yn ystod y rhyfel ac aeth i Awstralia yn rhan o Gynllun Gweddw’r Cadfridog. Gyda dwy ferch fach a bachgen yn gafael ar odre ei sgert dywedodd wrth newyddiadurwr bod Lloegr mewn ffordd wael o ganlyniad i ddiweithdra. Dywedodd “mae’n wlad o ysbrydion a chysgodion”. Roedd hi am fynd tramor i roi gwell cyfle i’w phlant. 

‘Roedd ei gŵr tra ar seibiant o Ffrainc wedi dweud wrthi: “Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn garedig iawn i ni draw yn Ffrainc, ac os ydw i’n mynd, byddan nhw’n garedig i’r rheini rwy’n eu gadael ar ôl.” Gwnaeth gais i Fyddin yr Iachawdwriaeth a dyna sut mae wedi cyrraedd Melbourne.   

‘Aeth i neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth ac yn syth at y fainc drugaredd ble cafodd ei hachub. Mae hi bellach yn chwarae yng ngherddorfa’r corfflu, ac mae’i phlant yn aelodau hapus o Fyddin yr Iachawdwriaeth.’ 

Ychydig o wythnosau yn flaenorol ar Fedi 25ain roedd y pennawd hwn yn War Cry, ‘Y Llanw yn Codi ym Merthyr’ gyda’r is-bennawd ‘Cymeriadau adnabyddus ymysg y 70 a gafodd eu cipio.’ Nododd yr adroddiad ‘mae golygfeydd o ddeffroad wedi bod ym Merthyr Tydfil dros y 15 wythnos diwethaf...Mae’r digwyddiad wedi gwneud argraff dda ar y bobl leol. Mae rhai cymeriadau adnabyddus hefyd wedi cael eu dylanwadu gan yr ysbryd newydd hwn sy’n teithio drwy’r dre. Mae tystiolaethau ysbrydoledig yn cael eu rhoi yn ystod pob gwasanaeth gan y rheini sydd wedi cael troëdigaeth.’ 

Gweddi

  • Gweddïwch dros y rheini sy’n ceisio bywyd newydd a dechrau’r bywyd hwnnw â’u golwg ar Dduw.  
  • Ystyriwch ble a phryd y dechreuodd eich bywyd newydd gyda Duw, a rhowch ddiolch iddo amdano. Gweddïwch dros y rheini sy’n dechrau ar fywyd newydd heddiw ac y bydden nhw’n cael eu hannog yn eu ffydd.  

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags