Diwrnod 52: Gweddïo dros eich taith ffydd bersonol (1925)
Awst 8fed
Diwrnod 52 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Bydda i’n dy foli di am byth, O Dduw, am beth rwyt ti wedi ei wneud. Dw i’n mynd i obeithio yn dy enw di. Mae’r rhai sy’n ffyddlon i ti yn gwybod mor dda wyt ti!’ (Salm 52:9).
1925
Dan y pennawd ‘Buddugoliaeth Cornel Uffern’ a’r is-bennawd ‘Maes y gad Cymreig yn cael ei ennill’ cafwyd yr adroddiad hwn: ‘Mae aelodau yng nghorfflu Abertawe wedi llwyddo i gipio ‘Cornel Uffern’. Yn ystod y gwasanaeth awyr agored daeth dyn allan o’r dafarn gyfagos i benlinio yn y cylch. Aeth y dyn i’r gwasanaeth ar y bore Sul a thystio am y newid hwn i’w fywyd.’
Roedd tystiolaeth – straeon ffydd bersonol – yn bwysig iawn yn ystod dyddiad cynnar Byddin yr Iachawdwriaeth. Mae rhannu’r hyn mae Duw yn ei wneud yn ein bywydau yn annog twf ysbrydol. Mae hefyd yn annog y rheini sy’n gwrando. Mae Duw ar waith o hyd; mae e’n dal i newid bywydau.
Gweddi
- Ystyriwch eich taith ffydd bersonol a diolchwch i Dduw am bresenoldeb byw Iesu yn eich bywyd. Dywedwch wrth rywun heddiw beth mae hynny’n ei olygu i chi.
- Y thema yn ystod ein dathliadau 150 eleni yw Dyma Gariad. Mae’n ffocysu ar ‘Stori Duw, Ein Stori, Eich Stori’. Os ydych yn rhan o Adran Cymru, dathlwch eich bod chi’n rhan o stori Byddin yr Iachawdwriaeth yn y wlad hon.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.